John Hefin

Fe fydd un o fawrion y byd teledu a ffilm yng Nghymru’n cael ei goffáu gan Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin yr wythnos hon, gyda dwy wobr yn dwyn ei enw.

Ar nos Iau yr ŵyl, bydd Gwobr John Hefin yn cael ei roi am Gyfraniad Oes i Euryn Ogwen Williams, tra bydd gwobr am y Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg hefyd yn cael ei rhoi er cof amdano.

Roedd John Hefin yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd blaenllaw yng Nghymru yn ystod ei yrfa a ddechreuodd yn 1960.

Daeth yn gyfarwyddwr ac yn gynhyrchydd gyda BBC Cymru, ac roedd yn un o sylfaenwyr ‘Pobol y Cwm’ yn 1974.

Yn 1978, ef oedd cyd-awdur a chyfarwyddwr y ffilm gomedi ‘Grand Slam’ i BBC Cymru, ac roedd yn gyfarwyddwr ar y gyfres ddrama ‘The Life and Times of David Lloyd George’ yn 1981.

Fe fu hefyd yn Bennaeth Drama BBC Cymru cyn symud ymlaen i weithio yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Drama Prifysgol Aberystwyth.

Ddiwedd y 1980au, daeth yn gyfarwyddwr artistig Ffilm Cymru, gan gomisiynu ffilmiau gan gwmnïau annibynnol i S4C.

Roedd hefyd yn gadeirydd Comisiwn Ffilm Cymru a’r cyfnodolyn Cyfrwng.

Yn 2012, derbyniodd wobr Cyfraniad Arbennig am ei ymroddiad i fyd dramâu teledu gan BAFTA Cymru.

Euryn Ogwen Williams

Yn derbyn Gwobr John Hefin am Gyfraniad Oes eleni fydd Euryn Ogwen Williams.

Cafodd ei eni ym Mhenmachno a’i addysgu yn Ysgol Alun yn Yr Wyddgrug cyn graddio mewn Athroniaeth a Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.

Wedi mentro i fyd y cyfryngau, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Rhaglenni TWW yng Nghaerdydd, cyn symud i gwmni teledu Harlech yn gyfarwyddwr a dod yn bennaeth adran o fewn y cwmni.

Treuliodd gyfnod yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ar ei liwt ei hun yn gweithio ar raglenni i’r BBC a HTV.

Cafodd ei benodi’n Bennaeth Rhaglenni S4C ym mlwyddyn ei sefydlu yn 1982 gan ddod yn Ddirprwy Brif Weithredwr y sianel rhwng 1988 a 1991.

Treuliodd gyfnodau hefyd yn ymgynghorydd i wasanaethau teledu Gaeleg a Gwyddeleg cyn ymgynghori S4C ar ddechrau’r oes ddigidol.

Roedd hefyd yn aelod o Fwrdd yr Iaith am gyfnod ac yn ymgynghorydd i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad wrth iddo gynnal ei arolwg iaith cyntaf.

Roedd hefyd yn un o ymddiriedolwyr Cwmni Acen.

Mae’n briod â Jenny Ogwen ac yn dad i Rhodri a Sara, ac yn dad-cu i dri o blant.

Dywedodd prif weithredwr yr ŵyl, Kelvin Guy: “Rydym hefyd yn falch iawn bod enw John Hefin wedi’i gysylltu â’r ŵyl hefyd, gyda dwy wobr er cof am y dyn rhyfeddol hwn.”

Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg

Bydd yr ail wobr yn enw John Hefin yn cael ei rhoi am y ffilm fer orau yn y Gymraeg ar unrhyw ffurf o gynhyrchu.

Gall ceisiadau fod yn ffuglen naratif fyw neu adroddiad ffeithiol ar unrhyw bwnc.

Rhaid i’r ceisiadau fod rhwng dwy funud a 30 munud.

Nod y wobr yw hybu cynhyrchwyr ifainc yn y Gymraeg, yn ogystal ag annog pobol ddi-Gymraeg i wylio ffilmiau Cymraeg eu hiaith.

Yr enwebiadau yw ‘Nain Stori Wir’ am berthynas nain â’i hwyres, ‘Cymanfa Garu’ sy’n olrhain hanes golygydd teledu di-waith, a ‘Pili Palod Penygroes’ sy’n dilyn hanes Bleddyn, hanes bachgen ysgol.

Bydd y noson wobrwyo’n cael ei chyflwyno gan Arfon Haines Davies.

Manylion yr ŵyl

A hithau yn ei phumed flwyddyn eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli o ddydd Llun i ddydd Iau, a nifer o ffilmiau annibynnol yn cael eu dangos drwy gydol yr wythnos.

Nos Lun, fe fydd y dangosiad cyntaf o’r ffilm ‘Shadow of the Missing’, ffilm arswyd gan y cynhyrchydd o’r Unol Daleithiau, Jamie Lee Smith, sydd wedi’i lleoli yn Llanelli a’r cyffiniau.

Nos Fawrth, fe fydd dangosiad arbennig o’r ffilm ‘By Any Name’ gan gwmni Tanabi o Abertawe (cyfarwyddwr Euros Jones-Evans), ac sydd yn serennu’r actores o Gastell-nedd, Samira Mohamed Ali. Mae’r ffilm yn seiliedig ar nofel Katherine John (sydd hefyd yn ysgrifennu o dan y ffugenw Catrin Collier).

Nos Fercher, fe fydd y sioe gomedi boblogaidd ‘Son of a Pitch’ gyda Gary Slaymaker yn dychwelyd i’r ŵyl unwaith eto.

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr yr ŵyl, Kelvin Guy: “Rydym eisoes wedi hen ymsefydlu ar galendr gwyliau ffilm rhyngwladol.

“Mae ceisiadau’n cynyddu’n ddramatig bob blwyddyn ac rydym yn cael gwneuthurwyr ffilm o bob cwr o’r byd yn ymgeisio ar gyfer y digwyddiad.”

Mae disgwyl i wneuthurwyr ffilm o Rwsia, Yr Iseldiroedd a’r Unol Daleithiau fod yn Llanelli ar gyfer yr ŵyl, a’r holl ffilmiau i’w gweld yn rhad ac am ddim drwy gydol yr ŵyl.

Mae’r digwyddiad bellach yn cael ei gymeradwyo gan BAFTA Cymru.

Mae rhagor o fanylion am yr ŵyl ar eu gwefan (Saesneg).