Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn yw Comisiynydd newydd Heddlu Dyfed-Powys.

Fe drechodd y Comisiynydd blaenorol Christopher Salmon (Ceidwadwyr).

Ar ddiwedd y rownd gyntaf, roedd gan Llywelyn 52,469 o bleidleisiau (28%), tra bod gan Salmon 47,093 (25.1%).

Roedd gan Llywelyn 75,158 o bleidleisiau yn y pen draw, o’i gymharu â 59,302 i Salmon.

Y canlyniadau llawn

Y rownd gyntaf

Dafydd Llywelyn 52,469 (28%)

Christopher Salmon 47,093 (25.1%)

Kevin Madge 34,799 (18.6%)

Des Parkinson 20,870 (11.1%)

Richard Church 20,725 (11.1%)

Edmund Davies 11,561 (6.2%)

Yr ail rownd

Dafydd Llywelyn 22,689

Christopher Salmon 12,209