Fe fydd canlyniadau'r arolwg yn siwr o blesio arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies
Mae’r pôl piniwn olaf sydd wedi’i chyhoeddi cyn i bobol Cymru bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad wedi dangos cynnydd yng nghefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig.
Y Torïaid sydd bellach yn yr ail safle pan mae’n dod at ganran y bleidlais yn yr etholaethau, tra bod Llafur yn parhau i fod ar y blaen gyda 33% ond gyda’i chefnogaeth ar ei hisaf ers chwe blynedd.
Mae Plaid Cymru wedi colli tir gyda’r polau yn dangos cwymp o 2%, ac mae’r arolwg gan YouGov ar gyfer ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn dal i awgrymu y bydd UKIP yn ennill nifer o seddi rhanbarthol.
Dyw’r rhagolygon ddim yn dda chwaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion, gyda’r pôl yn awgrymu mai ychydig o ACau os o gwbl fydd ganddyn nhw yn y Cynulliad nesaf.
“Siomedig” i Blaid Cymru
“Mae hwn yn arolwg siomedig iawn i Blaid Cymru. Roedd ein dau bôl Baromedr blaenorol wedi awgrymu rhywfaint o fomentwm i ymgyrch y Blaid,” meddai’r Athro Roger Scully, cyfarwyddwr yr arolwg.
“Ond mae’r arolwg diwethaf cyn etholiad yn dangos bod unrhyw gynnydd yn eu cefnogaeth yn stopio, a hyd yn oed o bosib yn mynd i lawr.”
Dywedodd Roger Scully nad oedd y newyddion da i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn arolwg y mis diwethaf, lle gwelwyd cefnogaeth i’r blaid yn codi 2%, wedi cael ei efelychu.
“Mae pleidlais etholaeth y blaid yn parhau i fod ar 8%, ond maen nhw wedi mynd yn ôl ar y rhestrau rhanbarthol… rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol wynebu’r posibilrwydd o golli [pedair] sedd fory.”
Dywedodd hefyd fod posibilrwydd y bydd UKIP yn llwyddo i gael sedd ymhob un o bum rhanbarth Cymru.
Tair sedd i newid dwylo
Y tair sedd sy’n debygol o newid dwylo, yn ôl yr arolwg, yw Canol Caerdydd yn mynd o Lafur i’r Democratiaid Rhyddfrydol, Llanelli yn mynd o Lafur i Blaid Cymru a Gogledd Caerdydd yn mynd o Lafur i’r Ceidwadwyr Cymreig.
Roedd yr arolwg wedi holi pobol yng Nghymru rhwng 2 Mai a 4 Mai dros ba blaid roedden nhw’n bwriadu pleidleisio.
Dyma’r canlyniadau llawn, gyda’r newid mewn cromfachau ers yr arolwg diwethaf a gafodd ei gynnal ar ddiwedd mis Ebrill.
Pleidlais etholaeth
Llafur: 33% (dim newid)
Ceidwadwyr: 21% (+2)
Plaid Cymru: 19% (-2)
UKIP: 16% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 8% (dim newid)
Eraill: 4% (+1)
Pleidlais ranbarthol
Llafur: 31% (+2)
Plaid Cymru: 20% (-2)
Ceidwadwyr: 20 (+1)
UKIP: 16% (+1)
Democratiaid Rhyddfrydol: 6% (-2)
Gwyrddion: 4% (dim newid)
Eraill: 4% (+1)
Seddi rhanbarthol yn seiliedig ar ogwydd cyffredinol
Gogledd Cymru: 2 UKIP, 1 Ceidwadwyr, 1 Plaid Cymru
Canol a Gorllewin Cymru: 2 Llafur, 2 UKIP
De Orllewin Cymru: 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr, 1 UKIP
Canol De Cymru: 2 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr, 1 UKIP
De Ddwyrain Cymru: 2 UKIP, 1 Plaid Cymru, 1 Ceidwadwyr
Y canlyniad disgwyliedig yn seiliedig ar ogwydd cyffredinol
Llafur: 27 sedd (25 sedd etholaeth + 2 sedd ranbarthol)
Plaid Cymru: 12 sedd (6 sedd etholaeth + 6 sedd ranbarthol)
Ceidwadwyr: 11 sedd (7 sedd etholaeth + 4 sedd ranbarthol)
UKIP: 8 sedd (8 sedd ranbarthol)
Democratiaid Rhyddfrydol: 2 sedd (2 sedd etholaeth)