Y papur newydd gafodd ei anfon gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngehredigion, a llythyr Elin Jones i etholwyr yn ymateb i'r honiadau
Mae ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion wedi cyhuddo’r Democratiaid Rhyddfrydol o fod yn “anonest, yn ddianrhydedd ac yn ddichellgar” yn dilyn ffrae dros filiau trethi cyngor.

Mewn llythyr gafodd ei anfon i etholwyr y sir ar drothwy etholiadau’r Cynulliad dywedodd Elin Jones fod honiadau gafodd eu gwneud yn erbyn ei phlaid  yn “gelwydd noeth”.

Daw hyn ar ôl i bapur newydd fynd allan at etholwyr Ceredigion yn ddiweddar gan y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn honni y byddai cynlluniau treth cyngor Plaid Cymru yn “arwain at 10,000 o aelwydydd ledled Ceredigion yn talu hyd at £1,000 ychwanegol bob blwyddyn”.

Mae’r cenedlaetholwyr yn gwadu hyn, gan ddweud y byddai eu cynlluniau yn “torri biliau’r mwyafrif helaeth o bobol yng Ngheredigion”.

Mae’r blaid yn cyfaddef y byddai “cynnydd bychan yn y bandiau uchaf un”, i’r eiddo sy’n cwympo i fand ‘I’, ond mai dim ond 19 o dai yn y sir gyfan sydd yn y band hwnnw.

“Camarwain” etholwyr

Mewn llythyr at etholwyr Ceredigion, dywedodd Elin Jones bod honiad y Democratiaid Rhyddfrydol “wedi’i eirio’n ofalus er mwyn osgoi unrhyw weithredu cyfreithiol posib OND, ac nid ar chwarae bach yr wyf yn dweud hyn, mae’n gelwydd noeth”.

“Mae’n enghraifft o’r math gwaethaf o ymgyrchu gwleidyddol,” meddai, gan ychwanegu bod y blaid wedi “camarwain” etholwyr.

“Fel plaid mae ganddynt hanes hir a balch ac mae’n ddigalon eu gweld yn mabwysiadu’r fath dactegau anonest.”

‘Ble mae’r celwydd?’

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi amddiffyn cynnwys eu papur newydd fodd bynnag, gan honni y byddai dros 12,000 o gartrefi – nid dim ond 19 – o dai fyddai’n gweld cynnydd yn y dreth.

“Er gwaethaf llawer o gwyno gan Blaid Cymru, maent sawl gwaith wedi methu pwyntio at unrhyw gelwydd yn union,” meddai llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Y gwirionedd yw bydd miloedd ar filoedd o deuluoedd ledled Cymru’n talu mwy o dreth cyngor yn ôl y cynlluniau a lawnsiwyd gan lefarydd cyllid Plaid – dyna 12,495 cartref yng Ngheredigion yn ôl ffigyrau swyddogol llyfrgell y Cynulliad.

“Dyna pam mae nifer o bobl ar draws y sir yn troi at Elizabeth Evans a Dem Rhydd Cymru er mwyn atal y cynlluniau hyn.”