Llun: Gwefan GIG
Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw 45% o Gymry  yn brwsio eu dannedd o leiaf unwaith y dydd.

40% yw’r ganran ar gyfer holl wledydd Prydain, sy’n golygu fod 24 miliwn o bobol heb frwsio eu dannedd y bore yma.

Mae’r dannedd glanaf i’w canfod yng ngogledd ddwyrain Lloegr – dim ond 23% sydd ddim yn brwsio dannedd o leiaf unwaith y dydd yno.

Bu ymchwilwyr cwmni White Glo, sy’n gwerthu nwyddau cadw dannedd yn wyn, yn holi 2,000 o bobol.

Roedd 23% yn dweud bod ganddyn nhw gywilydd o’u dannedd a 10% yn cau eu cegau cyn cael tynnu llun.

Brwsio yn bwysig

O ran oedran, roedd hanner y rhai 26-34 a holwyd yn cyfaddef nad ydyn nhw’n brwsio dannedd yn ddyddiol. Roedd 68% o’r rhai dros 55 oed yn dweud eu bod nhw’n glanhau eu dannedd o leiaf unwaith y dydd.

Dywedodd Dr George Sotiropolous, Pennaeth Ymchwil Dannedd cwmni White Glo, ei fod wedi ei “syfrdanu nad yw Prydeinwyr o ddifrif ynghylch glendid eu cegau.

“Mae brwsio eich dannedd o leiaf dwywaith y dydd yn bwysig er mwyn cadw danned a gyms yn iach.”