Amgueddfa Cymru
Mae disgwyl i wasanaethau amgueddfeydd Cymru gael eu heffeithio dros benwythnos gŵyl y banc y penwythnos hwn, wrth i rai o’r gweithwyr fynd ar streic.

Mae’r streic yn ymwneud â ffrae dros newidiadau i weithio ar benwythnosau, ac mae aelodau Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol rhwng dydd Iau (Ebrill 28) a dydd Sul (Mai 1).

Daw hyn yn dilyn streic ddiweddar wnaethon nhw ei chynnal dros benwythnos y Pasg, ddiwedd mis Mawrth.

‘Y swm mwyaf’

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru fod y PCS wedi cyhoeddi eu bod am weithredu’n ddiwydiannol “o fewn diwrnodau i’n cynnig i gwrdd â phob un o’n hundebau llafur cydnabyddedig i drafod y nifer o benwythnosau a weithir gan ein staff.”

Esboniodd fod Amgueddfa Cymru wedi cyflwyno cynnydd o 4% i gyflogau sylfaenol staff ar y graddau isaf, ynghyd â chynnig taliad “sy’n cyfateb i ddwy flynedd o’r lwfansau penwythnos.”

Fe bwysleisiodd hefyd mai dyna’r swm mwyaf y gallant ei gynnig ar hyn o bryd, a dywedodd bod Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru “wedi cadarnhau i PCS nad oes mwy o arian ar gael i wella’r cynnig.”

‘Gwirio’

 

Fel rhan o’r gweithredu diwydiannol, mae disgwyl i rai amgueddfeydd fod ynghau yn gyfan gwbl, a dim ond ambell wasanaeth yn cael ei effeithio mewn amgueddfeydd eraill.

Dywedodd y llefarydd y dylai pobol wirio trefniadau’r amgueddfeydd cyn teithio yno, ond mae disgwyl i’r streic effeithio ar Amgueddfa Werin Sain Ffagan, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lofaol Big Pit, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru.