Guto Roberts o Lantrisant fydd yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, astudiodd ffiseg yn y brifysgol yn Aberystwyth, ac aeth i ddysgu Ffiseg ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd. Erbyn ei ymddeoliad yn 2000, ef oedd pennaeth grŵp Ffiseg Prifysgol Morgannwg yno.

Bu’n ymwneud gyda Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes.  Wrth i bresenoldeb Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ddatblygu a chynyddu dros y blynyddoedd, roedd cynlluniau Guto Roberts yn mynd yn fwyfwy uchelgeisiol, gan roi cyfle i genedlaethau o wyddonwyr ifanc i gael eu hysbrydoli gan fodelau , arddangosfeydd a theclynnau gwyddonol o bob math ar y Maes yn flynyddol.

Sicrhaodd fod Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cael lle cymwys ar y Maes ac yn nhestunau’r Eisteddfod, a bu’n gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am ugain mlynedd.

Roedd hefyd yn gyfrifol am roi’r rhaglen weithgareddau a darlithoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, a bu’n allweddol i’r gwaith o sicrhau bod ymwelwyr i’r Eisteddfod yn cael gwybod am berthnasedd datblygiadau gwyddonol byd-eang i ni yma yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Guto Roberts yn derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Fynwy fis Awst.