Samira Mohamed Ali yn y ffilm Molly Crows (llun cyhoeddusrwydd)
Mae actores o Gastell-nedd sydd eisoes yn gwneud enw iddi hi ei hun yn India ar fin ymddangos mewn ffilm Saesneg fydd yn cael ei ffilmio yng ngwledydd Prydain, India a Nepal.

Samira Mohamed Ali sydd wedi’i dewis i actio’r prif gymeriad yn ‘Crushed Wings’- hi fydd Emma, gweithwraig gymdeithasol yn y stori am anffurfio organau rhywiol merched yn Asia.

Fe fydd ‘Crushed Wings’ yn cael ei ffilmio yn Saesneg ac yn cael ei throsleisio i Hindi ac Wrdw.

FGM

Derbyniodd Samira Mohamed Ali wobr am yr Actores Orau am ei rôl yn ‘By Any Name’ yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Gogledd Cymru eleni.

Mewn cyfweliad diweddar, dywedodd Awdur a Chyfarwyddwr Crushed Wings Lalit Bhusal o Ffilmiau Cam Buddha: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael Samira i gymryd y brif ran yn y ffilm hon, fydd yn dod ag erchyllterau FGM (Anffurfio Organau Rhywiol Merched) yn y gwledydd Asiaidd i’r amlwg.

“Mae gallu Samira i gymeriadu gydag empathi yn ei ffilmiau yn dangos i mi y bydd yn gallu ymdopi’n hawdd â’r brif ran, a’r amgylcheddau heriol y byddwn yn eu hwynebu yn Nepal ac India’r haf hwn”.

“Fe fydd Crushed Wings yn rhoi llais i’r merched hynny sy’n dioddef hyn yn ddiarwybod. Er bod y wasg a llywodraethau wedi codi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r broblem anferth hon yn y gorffennol, does dim digon o gefnogaeth na deunyddiau addysgol i’r merched hyn sy’n dioddef yn gorfforol ac yn emosiynol.”

‘Braint’ meddai Samira

Mewn datganiad, dywedodd Samira Mohamed Ali: “Rydw i’n ei theimlo hi’n fraint cael rhan yn y ffilm yma – bydd yn gyfle i ddod â phynciau di-sôn-amdanynt fel FGM, lladd merch o fewn teulu ar sail anrhydedd, i’r amlwg.

“Rwy’n ymlaen at gydweithio â’r cast a’r criw, a gobeithio y bydd y ffilm yn annog merched ifanc i sôn wrth rywun mewn awdurdod, am y defodau barbaraidd yma”.

Bydd Crushed Wings yn cael ei chyhoeddi yn 2017 ar draws gwledydd Prydain, gweddill Ewrop, India ac Asia.