Ysbyty Llwynhelyg
Mae rhybudd i bobol beidio ag ymweld â chleifion mewn ysbyty yn Sir Benfro yn dilyn achosion o norofirws a’r ffliw yno.

Cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod cyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ar hyn o bryd, yn enwedig yn yr Uned Gofal Dwys (Ward 8) a Ward 1, sydd wedi’u cau yn gyfan gwbl.

Ac o heddiw ymlaen, dim ond ymweliadau gyda’r hwyr fydd yr ysbyty yn caniatáu ar gyfer gweddill y wardiau er mwyn atal yr heintiau rhag lledu.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dweud ei fod yn monitro’r sefyllfa ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobol sydd wedi’u heffeithio.