Mae enillwyr Cân i Gymru eleni wedi cipio gwobr arall wrth gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Dywedodd y grŵp Cordia, o Ynys Môn, a enillodd gyda’r gân ‘Dim ond Un’ ei fod yn “falch o ddod â’r wobr yn ôl i Gymru”.

Ffion Elin a Rhys Jones gyfansoddodd y gân fuddugol ar gyfer y gystadleuaeth, gan ennill £5,000 a’r cyfle i berfformio yn yr ŵyl ban yn Carlow, Iwerddon.

Roedd y grŵp wedi dod ar y brig am y ‘Gân Ryngwladol Orau’ nos Iau.

Mae’r gân ‘Dim ond Un’ yn sôn am salwch meddwl, meddai Ffion Elin, sydd hefyd yn perfformio yn y band.

“Neges y gân yw bod bob amser rhywun yno sy’n medru helpu ac nad ydach chi ddim ar eich pen eich hunain,” meddai.