Portmeirion, safle Gŵyl Rhif 6
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi ychwanegu rhagor o artistiaid at eu rhestr, gan gynnwys Meic Stevens a Geraint Jarman.

Fe fydd R Seilog a Sŵnami hefyd yn ymddangos.

Bydd yr ŵyl ym Mhortmeirion, sy’n dathlu ei phumed pen-blwydd eleni, yn cael ei chynnal rhwng Medi 1-4.

Ymhlith yr enwau eraill sydd wedi’u cadarnhau mae’r awdur Irvine Welsh, prif leisydd Happy Mondays Shaun Ryder, a’r bardd Simon Armitage.

Awdur ‘Trainspotting’

Welsh yw awdur ‘Trainspotting’, y llyfr a gafodd ei throi’n ffilm sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 oed eleni.

Hefyd yn perfformio bydd Côr y Brythoniaid.

Ymhlith y comedïwyr sydd wedi’u cadarnhau mae Paul Foot a Mark Watson.

Mae rhagor o enwau hefyd o’r byd cerddoriaeth ddisgo ac electronig wedi’u cadarnhau.

Hefyd yn yr ŵyl am y tro cyntaf mae’r cwmni theatr Ffrengig Compagnie des Quidams, a’r bardd Dr John Cooper Clarke, sy’n dychwelyd am yr eildro yn dilyn ei berfformiad ym Mhortmeirion yn 2013.

Dathlu 50 mlynedd ers ffilmio The Prisoner

 

Eleni, mae’n 40 mlynedd ers i Doctor Who gael ei ffilmio ym Mhortmeirion, a 50 mlynedd ers dechrau ffilmio’r gyfres The Prisoner ac fe fydd dathliadau o’r ddwy gyfres yn ystod yr ŵyl.

I ddathlu’r ffaith fod Noel Gallagher yn un o’r prif artistiaid, fe fydd sesiwn holi ac ateb gyda chyfarwyddwr ffilm newydd am y band Oasis, Mat Whitecross, ac fe fydd dangosiad o’r ffilm Mr Nice Guy am fywyd Howard Marks.

Mae modd gweld rhestr o’r holl artistiaid ar wefan Gŵyl Rhif 6.