Cerys Yemm
Mae adroddiad i amgylchiadau llofruddiaeth dynes 22 oed yn Argoed ger y Coed Duon wedi canfod nad oedd modd i’r Gwasanaeth Iechyd fod wedi rhagweld nac atal y digwyddiad.

Er hyn, mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn nodi meysydd i’w gwella er mwyn “dysgu gwersi” ond nad oedd y materion hyn wedi cyfrannu at “y digwyddiad trasig” ar 6 Tachwedd 2014.

Blwyddyn a hanner yn ôl, cafodd Cerys Yemm, ei lladd yng ngwesty’r Sirhowy Arms ym mhentref Argoed, ger y Coed-duon.

Cafwyd hyd i’w chorff ag anafiadau difrifol i’w hwyneb a’i gwddf ar ôl i Matthew Williams, 34, ymosod arni.

Bu farw Matthew Williams yn fuan ar ôl i’r heddlu danio gwn taser ato cael, ac mae ei farwolaeth yn destun ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) o hyd.

Rhyddhau o’r carchar heb oruchwyliaeth

Roedd Williams newydd gael ei ryddhau o’r carchar heb unrhyw oruchwyliaeth statudol, a chanddo record hir o droseddu, yn ymwneud â 78 trosedd i gyd.

Pan gafodd ei ryddhau o Garchar Caerdydd, cafodd lety gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y Sirhowy Arms, sy’n cael ei ddefnyddio gan y cyngor ers 2008 i roi lloches dros dro i oedolion digartref a nifer o blant yn eu harddegau sy’n agored i niwed.

Roedd yn achos pryder, meddai adroddiad AGIC, nad oedd gwybodaeth am beryglon, fel troseddau blaenorol, wedi cael eu rhannu rhwng y Cyngor a pherchennog y gwesty.

Yn ôl yr adroddiad, roedd Williams yn defnyddio cyffuriau’n gyson ac roedd hyn wedi cael effaith negyddol ar ei iechyd meddwl.

Cyffuriau nid iechyd meddwl

Cafodd ddiagnosis o sgitsoffrenia yn 2004, ond doedd dim digon o dystiolaeth yn y blynyddoedd diweddar i ddangos ei fod yn dioddef o salwch o’r fath.

Ni chafodd y diagnosis ei ail-werthuso, ac mae’r adroddiad yn amau y dylai’r awdurdodau fod wedi dibynnu’n llawn ar hwn.

Roedd tystiolaeth, fodd bynnag, ei fod yn agored i ddatblygu seicosis oherwydd ei ddefnydd o gyffuriau.

Fodd bynnag, dywedodd AGIC ei fod yn “unigolyn cymhleth a heriol” i’w drin ac nad oedd yn mynd i’w apwyntiadau meddygol nac yn cymryd y feddyginiaeth y dylai fod yn ei gael.

Er hyn, dydy’r adroddiad ddim yn cydnabod bod symptomau salwch meddwl neu seicotig wedi chwarae rhan pan wnaeth lofruddio Cerys Yemm, ond ei fod yn debygol o fod o ganlyniad i gyffuriau a gymerodd cyn hynny.

‘Dysgu gwersi at y dyfodol’

Mae’r adroddiad yn gwneud 12 argymhelliad i ddysgu gwersi o’r ffordd y cafodd Matthew Williams driniaeth a gofal gan y Gwasanaeth Iechyd.

Mae’r argymhellion wedi’u cyfeirio at fyrddau iechyd ar draws De-ddwyrain Cymru, carchardai Caerdydd a Chyngor Caerffili.

“Yr oedd Mr Williams yn amharod i ymgysylltu â chymorth ar gael iddo ac roedd yn ganlyniad trasig,” meddai Prif Weithredwr yr Arolygiaeth Gofal Iechyd, Kate Chamberlain.

“Tra bod dim un o’r (argymhellion) yn adlewyrchu’r materion a ystyriwyd wedi cyfrannu yn sylweddol at y digwyddiad mae’n bwysig ein bod yn defnyddio’r cyfle hwn i ddysgu a gwella gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.”