Yr Athro Gerald Holtham
Mae economegydd blaenllaw wedi rhybuddio y byddai datganoli treth stamp i Gymru o dan gynlluniau presennol Llywodraeth Prydain yn costio’n ddrud i Gymru, a bod “straeon arswyd tebyg” wedi digwydd gyda’r dreth fusnes.

Esboniodd yr Athro Gerald Holtham mewn erthygl ar wefan Click on Wales y byddai’r Trysorlys yn “debygol” o dorri’r swm o grant bloc Cymru, a hynny’n hafal i’r refeniw y pen ar gynnyrch treth Lloegr.

Mae’n dweud y byddai’r gostyngiad yn codi’n flynyddol yn unol â “derbyniadau treth Lloegr.”

“Mae hyn yn cyflwyno gwasgfa Barnett hollol newydd, oherwydd mae’r cynnydd mewn treth y pen yn Lloegr llawer yn uwch mewn perthynas â’r sylfaen dreth lai yng Nghymru.”

‘Adennill costau’

Ychwanegodd y byddai’r sefyllfa’n parhau oni bai bod buddsoddwyr “yn sydyn yn penderfynu mai Rhondda Fach a rhan uchaf o Ddyffryn Taf yw’r lle ar gyfer eu harian.”

Dywedodd nad oes modd cymharu prisiau tai ym Maerdy a Phontsticill gyda phrisiau’r farchnad yn Llundain, er enghraifft.

“Mae’r cytundeb yn sicr yn rhoi cymhelliant cryf i Lywodraeth Cymru i hybu marchnad dai fywiog yng Nghymru,” meddai, “ond nid cymhelliad yw’r pwynt os nad oes modd adennill costau, heb sôn am lwyddo.”

‘Straeon arswyd’

Dywedodd y gallai’r Trysorlys gynnig “cyfaddawd” yn y gostyngiad cychwynnol i dderbyniadau yng Nghymru yn y flwyddyn gyntaf, gyda gostyngiadau’n cynyddu wedyn ar yr un raddfa â derbyniadau Lloegr.

“Mae hynny’n mynd â hanner y niwed wrth Gymru, ond yn gadael gostyngiad sy’n tyfu’n gynt na’r derbyniadau – oni bai bod newid mawr mewn tueddiadau marchnad dai.”

“Gellir dweud straeon arswyd tebyg am drethi busnes, sydd wedi eu datganoli i Gymru mewn modd a fydd yn costio miliynau o bunnoedd i gyllideb Cymru yn y blynyddoedd nesaf.”