Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion
Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu safle yng Ngheredigion am £727,000 ar gyfer ‘Canolfan Adnoddau Integredig’ a fydd yn dod yn lle ysbyty cymunedol, cartref preswyl a meddygfa yn Nhregaron.

Cyhoeddodd y Llywodraeth £5.8m i’r ganolfan y llynedd ar safle Cylch Caron a fydd yn dod â “gwasanaethau pwysig o dan yr un to.”

Y bwriad yw defnyddio’r ganolfan yn lle ysbyty cymunedol Tregaron, Cartref Preswyl Bryntirion a’r feddygfa leol.

Bu gwrthwynebiad mawr yn erbyn cau’r ysbyty yn 2005 ond yn ôl y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, bydd y ganolfan yn golygu bod gwasanaethau’n “agosach at y bobol.”

“Trwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, bydd y gwasanaethau hyn yn helpu pobl i fyw bywydau egnïol ac annibynnol,” meddai.

Costio £8.1 miliwn

Mae’r datblygiad wedi costio £8.1m i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

I nodi bod y tir wedi’i brynu, cafodd arwydd ei ddadorchuddio ar y safle gan Mark Drakeford, ynghyd â chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Bernadine Rees, y prif weithredwr, Steve Moore ac arweinydd Cyngor Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn.

Mae cynlluniau hefyd i adeiladu 34 o fflatiau i bobol sydd angen mwy o ofal a chymorth i aros yn eu cartrefi a chwe lle iechyd a gofal cymdeithasol i bobol sydd ddim angen gofal ysbyty ond sydd angen mwy o gymorth cyn mynd yn ôl adref.

“Carreg filltir”

“Mae’r cyhoeddiad yn garreg filltir allweddol i brosiect Cylch Caron, ac rydyn ni un cam yn agosach at ddarparu gwasanaethau tai, iechyd a gofal cymdeithasol effeithlon a chynaliadwy o ansawdd uchel sy’n gwasanaethu cymuned wledig Tregaron a’r ardaloedd cyfagos,” meddai Ellen ap Gwynn.

Yn y misoedd nesaf, bydd achos busnes llawn ar gyfer y ganolfan newydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ac mae disgwyl penodi Landlord Cymdeithasol Cofrestredig erbyn yr haf.