Bydd y Frenhines yn dathlu'i phen-blwydd yn 90 oed eleni (llun:PA)
Bydd Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru yn dathlu pen-blwydd Brenhines Lloegr yn 90 oed eleni gyda thân gwyllt a saliwt gynnau yn y Bae.

Mae’r Cyngor hefyd wedi gwahodd unrhyw un sydd yn rhannu pen-blwydd â’r Frenhines ar 21 Ebrill, sy’n troi’n 90 eleni, neu sydd â charreg filltir bwysig yn eu bywydau i ymuno â maer y ddinas mewn derbyniad diodydd i ddathlu.

Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan y Mileniwm ar pen-blwydd Elizabeth II a bydd y maer, sef y cynghorydd David Walker, yn goleuo coelcerth cyn symud at y tân gwyllt.

‘Traddodiad’ o ddathlu achlysuron brenhinol

“Mae rhai o drigolion Caerdydd bob amser yn dathlu Jiwbilîs, priodasau, coroniadau a phen-blwyddi brenhinol, gyda’r bannau’n cael eu goleuo yng Nghastell Caerdydd ac Ynys Echni fel arfer,” meddai’r Arglwydd Faer.

“Dyma gyfle i bobl ddod ynghyd a dathlu eu cerrig milltir nhw ochr yn ochr â charreg filltir Ei Mawrhydi.”

Fe fydd dathliadau’r diwrnod hefyd yn cynnwys saliwt 21 gwn ym Mhen-y-lanfa, a pherfformiad gyda’r hwyr gan Fand Adran Tywysog Cymru.