Fe fydd teithiau awyr dyddiol newydd yn cael eu cynnig rhwng Caerdydd a Llundain pan fydd twnnel rheilffordd Hafren, sy’n cysylltu Cymru a Lloegr, yn cau am chwe wythnos.

Fe gyhoeddodd Flybe heddiw y byddan nhw’n hedfan hyd at bedair gwaith y dydd rhwng meysydd awyr Caerdydd a Dinas Llundain yn ystod yr wythnos, a ddwywaith yn ystod y penwythnosau.

Mae disgwyl i’r twnnel gau rhwng 12 Medi a 21 Hydref 2016 er mwyn gwneud gwaith i drydaneiddio’r llinell.

Croesawodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y cyhoeddiad, gan ddweud bod Maes Awyr Caerdydd yn “mynd o nerth i nerth”.

Dywedodd Flybe eu bod yn gobeithio y bydd y teithiau’n helpu tawelu “gofidiau miloedd o deithwyr” sy’n defnyddio’r llinell drên, ac y byddai’n cymryd llai nag awr i hedfan rhwng y ddau faes awyr.

Croeso gan fusnesau

Mae’r cyhoeddiad wedi cael croeso gan fusnesau hefyd, gyda Phrif Weithredwr SA Brain a Chadeirydd Clwb Busnes Caerdydd, Scott Waddington yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn parhau y tu hwnt i fis Hydref.

“Mae cysylltiadau rhwng Caerdydd a Llundain yn hanfodol ar gyfer busnes felly mae’n wych gweld ymateb Flybe a Maes Awyr Caerdydd i gynnig opsiwn cyflym a chyfleus i deithio i’r ddinas,” meddai.

Dywedodd Carwyn Jones y gallai’r gwasanaeth ddatblygu’n un parhaol os yw’r un dros dro yn llwyddiannus, gan ychwanegu at dros 50 o deithiau sydd eisoes yn cael eu cynnig o’r maes awyr.

Cafodd Llywodraeth Cymru ei beirniadu y bore ‘ma am fethu ei thargedau ar nifer y bobol sy’n defnyddio’r maes awyr.

Ond mewn ymateb fe ddywedodd y llywodraeth bod 1.2 miliwn o bobol wedi defnyddio’r maes awyr dros y 12 mis diwethaf, y nifer fwyaf ers 2011.