Sian Gwenllian
Wrth i Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Alun Ffred Jones, adael y Senedd yr wythnos hon, mae ymgeisydd y Blaid yn etholiad y Cynulliad sy’n gobeithio ei olynu wedi talu teyrnged i’r hyn y mae wedi ei gyflawni.

Wrth dalu teyrnged i waith “diflino” Alun Ffred Jones dywedodd Sian Gwenllian mai ei gobaith yw dilyn yn ol ei draed fel pencampwr i’r ardal yn nhymor nesaf y senedd.

Daw’r deyrnged cyn i gefnogwyr Plaid Cymru gwrdd yng Nghaernarfon nos Wener i ddathlu cyfraniad Alun Ffred Jones i fywyd gwleidyddol Cymru ac i ddiolch iddo am ei waith yn gwasanaethu etholaeth Arfon ers 2007 a sedd Caernarfon cyn hynny ers 2003.

‘Diflino’

Dywedodd Sian Gwenllian: “Mae Alun Ffred wedi gweithio’n ddiflino am flynyddoedd lawer dros ei etholwyr a thros ei wlad.

“Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Cynulliad, brwydrodd nid yn unig dros yr hyn oedd yn bwysig i’r bobl yr oedd yn eu cynrychioli, ond hefyd dros y gwerthoedd a’r egwyddorion oedd yn ganolog i fywyd Cymreig mewn cyfnod allweddol yn hanes ein gwlad.

“Yn dilyn gwasanaethu fel Gweinidog Dros Ddiwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon rhwng 2008 a 2011 yn ystod llywodraeth Cymru’n Un, apwyntiodd Ffred Laura McAllister yn gadeirydd benywaidd cyntaf Sports Wales. Sicrhaodd hefyd ddeddf iaith hanesyddol a roddodd statws cyfartal i’r Gymraeg gyda Saesneg.

“Yn lleol, roedd Ffred yn rhan allweddol o sicrhau oriel Storiel a’r ganolfan arloesi a chelfyddydau, Pontio. Mae’r ddau le yn profi’n ganolog i drawsnewidiad Bangor ac wedi dod ag egni newydd i ganol y ddinas.”

‘Aelod blaenllaw’

“Roedd Ffred yn aelod blaenllaw o dim pwerus Plaid Cymru yn ystod llywodraeth Cymru’n Un a brofodd pa mor effeithiol y gall y blaid fod wrth y llyw,” meddai Sian Gwenllian wedyn.

“Nid tasg hawdd fydd dilyn Ffred, ond rwy’n barod am yr her a byddaf yn gwneud fy ngorau dros bobl Arfon os y caf fy ethol fel ei olynydd. Er ei fod yn gadael y Cynulliad, rwy’n hyderus y bydd yn parhau i gyfrannu tuag at fywyd ein cenedl am flynyddoedd lawer i ddod.”