Mae grŵp o Aelodau Cynulliad wedi dweud y dylai Cymru gael 100% o’i hynni o ffynonellau adnewyddadwy.

Daw’r argymhelliad gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad, sydd hefyd yn nodi’r angen i dorri o leiaf 80% o’i allyriadau carbon Cymru erbyn 2050, a bod angen dyddiad targed ar gyfer cyflawni hyn.

Yn ôl y Pwyllgor, mae angen i ynni lleol ac ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn y gymuned fod yn “rhan ganolog” o gynlluniau ynni Cymru yn y dyfodol.

Ac yn ei adroddiad, Dyfodol Ynni Craffach i Gymru, mae’r Pwyllgor yn dweud ei fod am weld targedau blynyddol yn cael eu gosod i leihau’r galw am ynni ac i helpu pobol i ddefnyddio ynni’n fwy effeithiol.

 

Newidiadau ym maes cynllunio

Mae’r adroddiad yn nodi 17 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys newid y rheoliadau adeiladu ar frys i sicrhau bod tai newydd yn cael eu hadeiladu i safonau ynni “sy’n agos at sero”.

Mae hefyd o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i gysylltu cost treth tir y doll stamp â pherfformiad ynni tŷ i ddechrau cynyddu gwerth cartrefi effeithlon o ran ynni.

“Cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol drwy leihau’n sylweddol faint o garbon sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer yw un o’r heriau mawr i’r byd, ac eto, mae cyfleoedd yn codi o fynd i’r afael â’r her hon i wella llesiant cenedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol yn sylweddol,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Alun Ffred Jones AC.

Angen “trawsnewid” meddylfryd

Mae Cymru wedi gosod targed cyfreithiol ar gyfer lleihau 80% o’i hallyriadau ond dywedodd Alun Ffred Jones fod angen “trawsnewid” y ffordd y mae pobol yn meddwl am ynni i gyrraedd y targed hwnnw.

Fel rhan o’i ymchwiliad, ymwelodd y Pwyllgor â thalaith Baden-Wurrtemberg yn ne-orllewin yr Almaen i weld sut y mae’r trawsnewidiad ynni, yr Energiewende, wedi cydio yno.

“Roedd yr hyn a welwyd yn yr Almaen yn atgyfnerthu’r achos dros newid, ac yn dangos yr hyn sy’n bosibl i ni drwy’r cyfuniad cywir o arweinyddiaeth, polisi a rheoleiddio,” meddai Alun Ffred Jones AC.

“Galwad clir i Lywodraeth nesaf Cymru”

 

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r adroddiad drwy ddweud ei fod yn “alwad clir ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithredu.”

“Mae’n cynnig rhaglen uchelgeisiol ond ymarferol i symud tuag at ddyfodol ynni mwy cynaliadwy i’n gwlad,” meddai llefarydd Plaid Cymru ar faterion ynni, Llyr Gruffydd.

“Er gwaethaf degymu diweddar y Llywodraeth Geidwadol ar y sector ynni adnewyddadwy a gyda’r Llywodraeth Lafur yn llusgo ei thraed ar ddyfodol ynni mwy glân, mae Plaid Cymru yn ymrwymedig i wireddu potensial ein cyfoeth o adnoddau naturiol.”

Bydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn lansio ei adroddiad yn ffurfiol yng Nghynllun Trydan Dŵr Radur ddydd Mawrth, 8 Mawrth.