Cordia yn dathlu eu llwyddiant neithiwr gyda'r cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris (llun: S4C)
Y gân ‘Dim ond un’ gan Ffion Elin a Rhys Jones a enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru, a gafodd ei darlledu’n fyw ar S4C neithiwr.

Dywedodd Ffion Elin, un o’r chwech sy’n canu gyda’r band o Borthaethwy, Cordia, mai thema’r gân yw salwch meddwl:

“Neges y gân yw bod bob amser rhywun yno sy’n medru helpu ac nad ydach chi ddim ar eich pen eich hunain,” meddai.

“Mae ein hathrawes gerddoriaeth yn Ysgol David Hughes, Gwennant Pyrs wedi ennill Cân i Gymru o’r blaen gyda’r gân ‘Dal i Gredu’ ac mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth.”

Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adlonaint S4C: “Llongyfarchiadau mawr i enillydd Cân i Gymru 2016 ac i’r holl berfformwyr am noson llawn egni a thalent. Roedd hi’n braf cael gweld enwau newydd a chyfarwydd, yn gyfansoddwyr a pherfformwyr yn cymryd rhan. Llongyfarchiadau a phob lwc i Cordia wrth fynd ymlaen i berfformio yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd.”

Y gwylwyr oedd yn gyfrifol am ddewis yr enillydd a hynny drwy bleidlais ffôn. Mae’r rhaglen i’w gweld ar wefan s4c.cymru.