Christopher Salmon
Mae ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys wedi cwestiynu defnydd y Comisiynydd presennol, Christopher Salmon o gar yr heddlu.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i honiadau bod Christopher Salmon wedi cael ei stopio am fod teiars ei gar yn ddiffygiol.

Ond mae Richard Church wedi cwestiynu pam gafodd Salmon yr hawl i ddefnyddio car yr heddlu yn y lle cyntaf.

Daeth i’r amlwg drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth fod gan y car oleuadau gleision a seiren nad oes hawl gan y Comisiynydd i’w defnyddio.

Mae’r cais hefyd yn nodi y gall y Comisiynydd hawlio costau teithio o 45 ceiniog y filltir.

‘Cyhuddiad difrifol’

Mewn datganiad, dywedodd Richard Church: “Mae Christopher Salmon wedi cael ei gyhuddo o yrru cerbyd â theiars diffygiol. Mae hynny ynddo’i hun yn gyhuddiad difrifol, ac fe fydd y mater yn ddiau yn dilyn trywydd y gyfraith.

“Ond mae’r saga hon yn arwain at y cwestiwn pam fod ganddo ddefnydd o gar arbenigol yr heddlu o gwbl.

“Alla’ i ddim gweld unrhyw reswm pam y dylid rhoi cerbyd â seiren a goleuadau gleision sydd wedi’i brynu drwy bwrs y cyhoedd i swyddog etholedig ar gyflog da o gwbl er mwyn iddo gael cwblhau ei ddyletswyddau.”

Ychwanegodd y dylid diddymu’r hawl i Gomisiynydd yr heddlu gael y defnydd o gar.