Bu farw dynes a chafodd dau ddyn eu hanafu’n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhentrefoelas brynhawn Sadwrn.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Renault Clio arian a Mercedes SLK du ar yr A543 toc cyn 3.45yp.

Roedd y dynes, oedd yn ei 40au, yn teithio yn y Mercedes.

Cafodd y ddau ddyn eu cludo i’r ysbyty yn Stoke ag anafiadau difrifol.