Fe fydd noson fisol newydd o adloniant Cymraeg rhad ac am ddim yn cael ei lansio yn Abertawe nos Wener yma wrth i Brigyn berfformio ar ôl gêm rygbi Cymru yn erbyn Ffrainc ac yn ystod hanner amser.

Mae’r nosweithiau yn y bar lolfa yn Nhŷ Tawe wedi’u trefnu gan drefnwyr gŵyl flynyddol Tyrfe Tawe ar nos Wener olaf bob mis drwy gydol y flwyddyn.

Bydd yr arlwy’n cynnwys gigs, nosweithiau comedi gyda Noel James a Steffan Alun, a noson yng nghwmni’r consuriwr Paul Eds.

Ymhlith y rhai eraill fydd yn perfformio yn ystod y flwyddyn mae Tecwyn Ifan, Huw M, Lowri Evans ac Arfon Wyn.

Cefndir

Fe fu Tŷ Tawe’n cynnal noson werin fisol ers rhai blynyddoedd, ac mae’r rheiny bellach yn cael eu cynnal yn y bar lolfa.

Ymhlith y rhai sydd eisoes wedi perfformio yn y bar lolfa mae’r band Plu a’r comedïwr Elis James.

‘Cymdeithasu’n anffurfiol’

Mewn datganiad, dywedodd y trefnwyr: “Bu cyfnod yn hanes Tŷ Tawe pan oedd y bar ar agor yn nosweithiol, ond ni fu hynny’n wir ers dros ddegawd bellach ac agor ar gyfer digwyddiadau yn unig fu hanes y bar ers tro.

“Serch hynny, bu’r sesiwn werin fisol yn Nhŷ Tawe yn gaffaeliad mawr i’r ardal gan gynnig y cyfle i Gymry Cymraeg gymdeithasu’n anffurfiol mewn awyrgylch Gymraeg a Chymreig unwaith yn rhagor.

“Ar nos Wener gyntaf bob mis, mae noson ganu tafarn, daw’r sesiwn werin ar yr ail nos Wener, digwyddiad gan y Fenter Iaith ar y drydedd nos Wener ac yna i gloi pob mis, ceir gig acwstig gan Tyrfe Tawe gan gynnwys comediwyr, cerddorion, a chonsuriwr.

“Mae croeso mawr i bawb o bob oed a braf fyddai gweld Tŷ Tawe yn orlawn bob nos Wener eto.”

Manylion y digwyddiadau:

Chwefror 26 Brigyn

Mawrth 25 Noel James

Ebrill 29 Gwenan Gibbard

Mai 27 Tecwyn Ifan

Mehefin 26 Catrin Herbert

Gorffennaf 29 Steffan Alun

Awst 26 Paul Eds

Medi 30 Arfon Wyn

Hydref 28 Huw M

Tachwedd 25 Lowri Evans

Rhagfyr 30 I’w gadarnhau