‘HMP Berwyn’ fydd enw’r carchar enfawr newydd fydd yn agor ei ddrysau yn Wrecsam ym mis Chwefror 2017.

Cafodd yr enw ei dewis o restr fer o chwech, wedi i ysgolion, grwpiau lleol ac aelodau o’r cyhoedd gyflwyno eu hawgrymiadau.

Mae’r carchar, sydd wedi costio £212m a fydd yn dal dros 2000 o garcharorion, wedi cael ei enwi ar ôl rhostir mynyddoedd y Berwyn sydd i’r gorllewin o’r dref.

Yr enwau eraill ar y rhestr fer oedd Bridgeway, Marcher, Cerrig Tân, Dee Vale a Whittlesham.

‘Siwrne anodd i’r carcharorion’

Dywedodd Russ Trent, fydd yn llywodraethwr ar y carchar newydd, fod cael enw oedd yn gysylltiedig â mynyddoedd yn ffordd o gydnabod tirwedd yr ardal yn ogystal â’r “siwrne anodd i rai o’r carcharorion”.

“Rydw i wrth fy modd â’r enw yn bersonol gan ei fod yn adlewyrchu rhan bwysig o ddiwylliant Cymreig ac fe fyddwn ni’n medru ymgorffori’r enw’n dda i mewn i’r amgylchedd corfforol y tu mewn i’r carchar.”

Mae’r llywodraeth wedi dweud y bydd y carchar, sydd wedi cael ei hadeiladu ar safle hen ffatri Firestone, yn hwb i’r economi leol ac yn creu swyddi yn ogystal â chaniatáu i garcharorion o Ogledd Cymru gael eu cadw yn agosach at gartref. Ond mae eraill wedi protestio yn ei erbyn gan honni y gallai achosi problemau trais a chyffuriau, ac yn ôl adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru fe allai osod straen ar wasanaethau iechyd yr ardal.