Plas Glynllifon
Mae cwmni sy’n gyfrifol am werthu Plas Glynllifon wedi cadarnhau na fyddan nhw’n newid enw’r plasty yng Ngwynedd i ‘Newborough Hall’.

Fe ddaeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf fod cwmni David Currie & Co, sydd â’u pencadlys ym Manceinion, wedi marchnata’r plasty, sydd â 102 o ystafelloedd, o dan enw Saesneg.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni mai cynnig gan eu hadran farchnata oedd hynny, ac “roedd e’n amlwg yn syniad gwael.”

“Doedd gennym ddim syniad y byddai’n achosi’r fath ymateb, a does gennym ddim bwriad i’w newid o gwbl bellach.”

Dyma’r ail dro pedol yn hanes ailenwi’r plasty o fewn chwe mis, gyda chwmni datblygu MBI o Halifax yn awgrymu fis Hydref y bydden nhw’n marchnata’r plas o dan yr enw ‘Wynnborn’.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran David Currie & Co na fyddan nhw’n newid yr enw mwyach.

“Ry’n ni wedi derbyn ymateb chwyrn, a dy’n ni’n parchu barn y cyhoedd.”

Yr wythnos ddiwethaf, fe gafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pan ddaw’n gyfraith, fe fydd yn golygu y bydd cofnodion am yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu rhoi ar gofnod statudol, diogelu adeiladau hanesyddol ynghyd ag enwau lleoedd.