Rhodri Glyn Thomas (o wefan y Cynulliad)
Mae un o gyn-weinidogion Diwylliant y Cynulliad wedi’i benodi’n Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd Rhodri Glyn Thomas yn dechrau yn y swydd ar 6 Ebrill 2016 a bydd ei benodiad yn parhau am bedair blynedd.

Roedd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eisoes wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn yr etholiad ym mis Mai.

Yn ystod ei gyfnod fel AC bu’n Gadeirydd ar y Pwyllgorau Iechyd, Diwylliant a Materion Gwledig a hefyd yn Gomisiynydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd ei benodi’n Weinidog dros Ddiwylliant o dan Lywodraeth Cymru’n Un ym mis Gorffennaf 2007, cyn cael y sac flwyddyn yn ddiweddarach am smocio sigâr.

‘Profiad helaeth’

“Bydd gan Rhodri brofiad helaeth i’w gyfrannu, ac yn arbennig ym maes diwylliant a threftadaeth, a bydd hefyd yn helpu i ddatblygu ac ehangu apêl y llyfrgell,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristaeth Ken Stakes, wrth gyhoeddi’r penodiad.

“Braint fawr oedd cael cais i fod yn Llywydd ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru,” meddai Rhodri Glyn Thomas wrth gael ei benodi. “Mae’n sefydliad hanfodol sydd wedi cyfrannu’n fawr at fywyd y genedl. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â staff a chefnogwyr y Llyfrgell er mwyn cefnogi ei dyfodol.”

Bydd yn dilyn yr Athro Syr Deian Hopkin fel Llywydd ar ôl i’w gyfnod yn y swydd ddod i ben ar 30 Tachwedd y llynedd.