Newborough Hall?
Mae ffrae arall wedi codi ynglŷn ag enwi Plas Glynllifon wedi iddi ddod i’r amlwg bod y cwmni sydd yn gyfrifol am ei werthu yn ei farchnata dan yr enw ‘Newborough Hall’.

Cafodd nyth cacwn ei dynnu i ben cwmni datblygu MBI o Halifax llynedd ar ôl iddyn nhw ddweud y bydden nhw’n marchnata’r plas o dan yr enw Wynnborn petawn nhw’n ei brynu.

Bu tro pedol gan y cwmni oherwydd gwrthwynebiad lleol i’r enw, ond nawr mae cwmni David Currie & Co sydd yn gyfrifol am ganfod prynwr i’r eiddo bellach wedi mabwysiadu enw Saesneg newydd i’r plas.

Mae hynny wedi cythruddo’r mudiad Dyfodol i’r Iaith, sydd yn dweud nad yw Plas Glynllifon erioed wedi cael ei alw’n Newborough Hall cyn hyn.

Amcanbris o £1m

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni David Currie & Co o Fanceinion eu bod wedi rhoi amcanbris o £1miliwn ar y plas, ond nad oedd cynigion pendant wedi cael eu gwneud gan unrhyw un ers i’r cytundeb gydag MBI fethu â chael ei chwblhau.

Mae’n bosib y bydd y cwmni’n rhoi’r eiddo ar ocsiwn yn Llundain, er mwyn ceisio denu mwy o ddiddordeb ynddo.

Ychwanegodd y llefarydd bod enw ‘Newborough Hall’ yn cael ei ddefnyddio am fod stad Glynllifon yn arfer perthyn i’r Arglwydd Newborough, er eu bod yn ymwybodol o’r stŵr gafodd ei godi am yr enw Wynnborn llynedd.

Mynnodd y llefarydd nad yw’r enw Saesneg yn cael ei ddefnyddio mewn ymgais i wneud y plas yn fwy apelgar i brynwyr o du hwnt i Gymru.

‘Pobl yn gandryll’

Ond yn ôl Dr Simon Brooks, ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith, mae pobl wedi cysylltu ag ef ac yn “gandryll” bod ail enw Saesneg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Plas Glynllifon mewn llai na blwyddyn.

Meddai”“Ydi Glynllifon yn mynd i gael enw Saesneg gwahanol bob blwyddyn rŵan?

“Mae’n wir mai stad Arglwyddi Newborough ydi Glynllifon, a bob hyn a hyn mae rhyw sôn yn yr archifau am stad Newborough am mai nhw oedd perchnogion y lle. Ond wela i ddim cofnod o ‘Newborough Hall’ yn unman.

“Dw i wedi bod yn chwilio yn archif electronig y Llyfrgell Genedlaethol o bapurau newydd Cymraeg a Saesneg i weld a oedd rhywun yn defnyddio ‘Newborough Hall’.

“Does yna ddim un cyfeiriad at ‘Newborough Hall’. Mae yna 4,288 o gyfeiriadau at Glynllifon!”

Gwarchod enwau

Mae’r ffrae ddiweddaraf wedi codi yn ystod wythnos ble mae gwarchod enwau Cymraeg hanesyddol wedi codi’n bwnc trafod yn y Cynulliad.

Ac yn ôl Simon Brooks, mae’r ymgais i ailenwi Plas Glynllifon yn esiampl o’r union fath o beth ddylai gael ei atal.

“Mae’n warth o beth fod pobol yn meddwl y gallan nhw ‘stumio ein hanes fel hyn,” meddai’r academydd.

“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan annatod o dirwedd a hanes ein gwlad, ac mae newid enwau Cymraeg a rhoi enwau Saesneg yn eu lle yn warth.”