Pen Llŷn
Fe fydd gweithdy sy’n cael ei drefnu gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru heddiw yn mynd ati i gofnodi rhai o enwau Cymru, cyn iddyn nhw fynd yn angof.

Mae’r gweithdy yn cael ei gynnal ym Mhlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog  a’r bwriad yw canolbwyntio ar ddiogelu enwau Penrhyn Llŷn.

Mae’r trefnydd Dr Rhian Parry yn dadlau fod angen deddfwriaeth i sicrhau fod yr hen enwau yn cael eu diogelu.

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 

Ar ddechrau’r wythnos cafodd Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol. Y bwriad yw gwella sut y caiff amgylchedd hanesyddol unigryw’r genedl ei ddiogelu.

Pan ddaw’n gyfraith, mae’n golygu mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y DU i roi cofnodion am yr amgylchedd hanesyddol ar gofnod statudol.

Bydd y cofnodion hefyd yn darparu mynediad at restr newydd o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Angen ‘gwarchod ein treftadaeth’

Ond yn ôl Dr Rhian Parry mae’r ddeddf “yn anwybyddu’r angen am ddiogelu yn statudol mân enwau ar lawr gwlad. Mae gwir angen deddfwriaeth i warchod ein treftadaeth.”

“Mae gweithdai fel hyn yn mynd ati yn wirfoddol i gofnodi’r enwau hyn, cyn iddynt gael eu colli am byth.

“Mi yna dipyn o frys. Mae’r gweithdy hwn yn benodol yn canolbwyntio ar ddiogelu enwau Penrhyn Llŷn a dyma’r genhedlaeth olaf inni allu gwneud hyn.”

Mapio’r enwau

Mae yna brosiect cenedlaethol sy’n digwydd ar y cyd rhwng  Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru  i gofnodi holl fân enwau Cymru.

Ychwanegodd Dr Rhian Parri: “Mi gawson ni arian gan y Loteri i sefydlu bas data, yn seiliedig ar feddalwedd Google Earth i gofnodi mân enwau ar hyd a lled Cymru ac mae’r prosiect hwn wedi dechrau ers dwy flynedd i wneud y gwaith o gofnodi’r enwau.

“Rydym yn cofnodi cyfeirnod grid pob enw, boed yn afon, ogof neu fryn, a’r afonydd ydi’r enwau cyntaf sydd wedi eu cofnodi.”

“Rydan ni hefyd yn siarad gyda’r Arolwg Ordnans ac yn ceisio dylanwadu arnynt i gywiro rhai o’r enwau sydd ar y mapiau Ordnans.”

Fe wnaeth Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru drefnu cynhadledd y llynedd i drafod enwau lleoedd, gyda deiseb wedi’i lansio, yn galw am ddeddfwriaeth i ddiogelu’r enwau cynhenid.

Fe dynnwyd sylw at Nameless Cwm sy’n disgrifio’r enw cywir Cwm Cneifion yn y Glyderau fel enghraifft  o enwau anghywir ar fapiau Ordnans.