Bydd cerddoriaeth jazz i’w chlywed eto ar strydoedd Aberhonddu eleni gyda Chlwb Jazz Aberhonddu a rhanddeiliaid lleol yn cymryd yr awenau.

Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr na fyddai cwmni Orchard o Gaerdydd yn parhau i drefnu Gŵyl Jazz Aberhonddu yn 2016 ar ôl camu i mewn i’w hachub bedair blynedd yn ôl.

Roedd y cwmni wedi dweud nad ydyn nhw wedi cael eu talu o gwbl am eu gwaith trefnu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae ymchwil diweddar gan Music UK yn dangos bod twristiaeth gerddorol yn darparu o leiaf £95 miliwn i economi Cymru bob blwyddyn.

Nawr, mae neges ar wefan yr ŵyl yn cadarnhau y bydd rhaglen o jazz yn cael ei chynnal yn y dref dros benwythnos 12-14 Awst 2016.

Meddai’r neges fod Orchard yn haeddu clod am drefnu Jazz Aberhonddu rhwng 2012 a 2015 ond bod cynlluniau ar gyfer Gŵyl Jazz Aberhonddu 2016 eisoes ar y gweill gan griw sy’n cynnwys rhanddeiliaid lleol.

Ychwanegodd y neges y byddai cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud yn fuan.

Yn ogystal, mae Clwb Jazz Aberhonddu yn gwahodd rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn yr ŵyl i gysylltu â nhw trwy eu harolwg ar-lein: http://www.breconjazzfestival.org/