Llys Ynadon Pontypridd
Mae gyrrwr bws ysgol wedi ei wahardd ar ôl cael ei ddal yn gyrru o dan ddylanwad alcohol.

Cafodd Jeffrey Owen, 44 oed, ei weld yn yfed seidr ac yn prynu mwy o alcohol cyn gyrru’r bws rhwng Ysgol Y Porth a Threorci.

Fe glywodd Llys Ynadon Pontypridd, fod yr heddlu wedi eu rhybuddio, ac wedi ei ddal yn gyrru’r bws yn Nhonpentre yng Nghwm Rhondda.

Roedd yn cludo disgyblion chweched dosbarth o Ysgol Gyfun y Porth i ysgol arall yn Nhreorci.

Fe glywodd y Llys ei fod wedi gwrthod rhoi prawf anadl, ond bod sampl dŵr yn dangos ei fod dros y cyfyngiad alcohol.

Fe ddywedodd bargyfreithiwr ar ran Jeffrey Owen, o  Graig Wen, Maerdy ei fod yn teimlo’n “ddrwg iawn” am ei weithredoedd.

Roedd Owen wedi pledio’n euog i gyhuddiad o fod yn gyfrifol am gerbyd tra o dan ddylanwad alcohol.

Fe gafodd ddedfryd o wyth wythnos yn y carchar wedi ei gohirio am 12 mis. Mae hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am 16 mis.