Y cynghorwyr Cefin Campbell, Mair Stephens a Calum Higgins yng nghyfarfod Tynged Yr Iaith heddiw
Fe ddaeth rai o drigolion Sir Gaerfyrddin ynghyd heddiw i drafod sut i symud ymlaen dros gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, a hynny tair blynedd ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Y prif bwnc trafod oedd iaith gwaith Cyngor Sir Gaerfyrddin a sut y gellir ei symud i weithredu’n fewnol yn uniaith Gymraeg.

Yn ei strategaeth iaith, mae ymrwymiad gan y cyngor i “weithredu’n ddwyieithog gan roi pwyslais ar y defnydd cynyddol o’r Gymraeg”, ond ar hyn o bryd does dim amserlen na tharged penodol dros wneud hynny.

Y gred gyffredinol yn y cyfarfod heddiw, a gafodd ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith, oedd mai Saesneg yw iaith y cyngor o hyd a bod sawl ffurflen, sydd i fod yn ddwyieithog, yn cael eu hanfon at y cyhoedd yn Saesneg.

Bu cwynion ynghylch cynnig ffurflenni Saesneg neu ddwyieithog i gofrestru plentyn newydd anedig, heb gynnig dewis Cymraeg a bod gostyngiad sylweddol yn nifer y staff sy’n cael hyfforddiant iaith Gymraeg.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, maen nhw am weld “gweledigaeth” newydd yn dod gan y cyngor – ei bod yn gweithredu yn Gymraeg yn hytrach na “chyfieithu popeth o hyd.”

‘Game changer’ i’r cyngor

Mae’r cyngor wedi sefydlu strategaeth sgiliau iaith newydd sy’n “game changer” i Gyngor Sir Gaerfyrddin, yn ôl y cynghorydd Cefin Campbell, is-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol ar y Gymraeg.

“Bydd y strategaeth yn edrych ar anghenion ieithyddol pob swydd a gofyn cwestiwn syml – oes angen sgiliau Cymraeg ar gyfer y swydd hon,” meddai.

“Ac mae unrhyw swydd, bydden ni’n dychmygu, sy’n ymwneud â’r cyngor neu’n ymwneud ag aelodau etholedig yn rhwym o fod yn swydd lle mae angen sgiliau ieithyddol.”

Yr ‘angen’ am amserlen

Er hyn, mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod angen amserlen bendant er mwyn gweld newid go iawn yn y sir.

“Er bod y Cyngor wedi rhoi Strategaeth Sgiliau iaith mewn lle, ac er i gynghorwyr adrodd bod pethau’n newid does dim amserlen bendant,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin y mudiad.

“Wrth drafod heddiw daeth yn amlwg fod pobl ar draws y sir yn rhannu rhwystredigaeth, ac yn gweld nad oes cynllun hirdymor a bod angen hynny.

“Mae’r Safonau Iaith yn gofyn i’r Cyngor roi strategaeth mewn lle i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg felly byddai’n amserol i’r Cyngor roi amserlen mewn lle, er mwyn cael dyddiad clir i anelu at ddod yn sefydliad sy’n gweithio drwy’r Gymraeg.”

Dywedodd Cefin Campbell wrth golwg360 ei fod yn cydnabod yr angen am osod amserlen ar gyfer gweithredu, “yn hytrach na gadael i bethau digwydd yn eu hamser eu hunain”

“Byddaf i’n mynd nôl i’r gwahanol bwyllgorau (ar y cyngor) gyda hynny mewn golwg – ein bod ni’n gosod amserlen o ran cyflawni gwahanol dargedau.”

Er hyn, fe ddywedodd Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol dros y Gymraeg, Mair Stephens nad oes amserlen bendant, ond y byddan nhw’n creu “strategaeth pum mlynedd er mwyn hybu’r Gymraeg.”