Sŵnami
Mae Sŵnami yn un o’r bandiau fydd yn chwarae yn ystod Gwobrau’r Selar eleni, wrth i drefnwyr y noson gyhoeddi’r enwau cyntaf fydd yn perfformio.

Bydd Band Pres Llareggub, HMS Morris, Terfysg ac Aled Rheon hefyd yn diddanu ar y noson, wrth i rai o artistiaid amlycaf y flwyddyn gael eu gwobrwyo yn y seremoni flynyddol.

Mae Sŵnami a Band Pres Llareggub, yn ogystal â Plu, eisoes yn cystadlu ar restr fer ‘Record Hir Orau’ y Gwobrau eleni.

Mae disgwyl i ragor o artistiaid fydd yn chwarae yn y gwobrau, sydd yn cael eu cynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn 20 Chwefror, gael eu cadarnhau yn fuan.

Digwyddiad yn tyfu

Mae Gwobrau’r Selar wedi tyfu’n flynyddol ers i’r noson fyw gyntaf gael ei chynnal yn Neuadd Hendre bedair blynedd yn ôl, ac yn ôl trefnydd y noson mae disgwyl yn agos at 1,000 o bobl yno eleni.

“Dyma ydy noson  fawr gyntaf y flwyddyn gerddoriaeth, ac yn wir un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf y flwyddyn yng Nghymru erbyn hyn,” meddai Uwch Olygydd cylchgrawn Y Selar, Owain Schiavone.

“Dwi’n siŵr bydd y cyffro’n cynyddu ar gyfer eleni wrth i ni gyhoeddi enwau cyntaf yr arlwy. Mae tipyn o feddwl tu ôl i’r lein-yp – rydan ni’n awyddus iawn i adlewyrchu llwyddiant y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r artistiaid i gyd yn haeddu eu lle ar y llwyfan.”

Bydd y cynnig pris arbennig o £12 am docynnau Gwobrau’r Selar yn dod i ben ar ddydd Sul 31 Ionawr, gyda’r pris yn codi i £15 y diwrnod canlynol.