Huw Lewis, Gweinidog Addysg Cymru, a fydd yn gadael y Cynulliad ym mis Mai
Mewn cyhoeddiad annisgwyl neithiwr, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru y bydd yn gadael y Cynulliad ym mis Mai.

NI fydd Huw Lewis, sydd wedi cynrychioli etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni yn y Cynulliad ers 1999, yn sefyll yn yr etholiad nesaf.

Ef yw’r diweddaraf o blith Aelodau Cynulliad blaenllaw gan gynnwys Edwina Hart, Gwenda Thomas, Rhodri Glyn Thomas a Keith Davies i gyhoeddi eu bod am roi’r gorau iddi ar ddiwedd tymor presennol y Cynulliad.

Yn ei gyhoeddiad, dywedodd Huw Lewis:

“Mae gwasanaetha’r cymunedau lle ces i fy magu wedi bod yn fraint ac anrhydedd anhygoel, ond dyma’r adeg iawn i mi fod yn symud ymlaen. Dw i’n ddiolchar iawn i bobl Merthyr Tudful a Rhymni, ac yn enwedig i aelodau’r blaid sydd wedi gweithio mor galed dros yr ardal.

“Dros yr 17 mlynedd ddiwethaf, mae Merthyr Tudful a Rhymni wedi cael ei weddnewid mewn ffordd wirioneddol nodedig, diolch i gyfres o lywodraethau Llafur olynol.

“Hoffwn ddiolch i Carwyn Jones am y cyfle i ddiolch yn ei Lywodraeth mewn amrywiol swyddogaethau.”

Teyrnged UCAC

Er ei fod yn wleidydd dadleuol, bu’n ddigon uchel ei barch fel Gweinidog Addysg, ac wrth ymateb i’r newyddion am ei ymddeoliad, meddai llefarydd ar ran yr undeb athrawon UCAC:

“Mae Huw Lewis wedi dangos ymrwymiad diffuant at system addysg o safon yng Nghymru, ac mae e wedi bod yn barod i gyd-drafod a chydweithio i gyrraedd y nod. Nid oes lle i amau ei ymroddiad i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi a chyrhaeddiad addysgol isel.

“Fel Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, mae e wedi cymryd sawl cam nodedig gan gynnwys, cychwyn y broses o greu’r cwricwlwm gwirioneddol Gymreig cyntaf erioed, a newid agwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatganoli’r pŵer dros dâl ac amodau gwaith athrawon.

“Bydd gwaith aruthrol ar ddesg y Gweinidog newydd ym mis Mai, yn y meysydd hyn yn ogystal â meysydd eraill fel amodau gwaith athrawon cyflenwi, a diwygio Cymraeg Ail Iaith.

“Dymunwn yn dda i Huw Lewis yn ei fywyd y tu hwnt i’r Cynulliad.”