Mae mwy na 4,000 o bobol wedi arwyddo deiseb i achub llyfrgelloedd lleol yng Nghastell Nedd a Phort Talbot.

Mae’r gwasanaethau sydd o dan fygythiad yn cynnwys llyfrgelloedd Baglan, Sgiwen, y llyfrgell deithiol ac Amgueddfa Cefn Coed yng Nghastell Nedd sy’n arbenigo mewn treftadaeth mwyngloddio.

“Mae ein llyfrgelloedd yn wasanaethau cymdeithasol ac addysgol angenrheidiol, ac yn darparu cyfleusterau digidol i’n cymunedau,” meddai Mark Fisher, cadeirydd cangen Castell Nedd a Phort Talbot o Unsain Cymru.

Fe ychwanegodd fod yr ymateb i’r ddeiseb wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac y byddan nhw’n ei gyflwyno heddiw gerbron arweinydd Cyngor Castell Nedd a Phort Talbot, Alun H Thomas a hefyd y Cyfarwyddwr Addysg, Aled Evans.

“Mae ymateb y cyhoedd i’n hymgyrch wedi bod yn ysgubol,” ychwanegodd Mark Fisher.

‘Dyletswydd i warchod’

Mae’r gangen leol o Unsain Cymru wedi casglu mwy na 2,000 o lythyron hefyd yn galw am ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddan nhw’n cyflwyno’r rheiny gerbron y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates.

Fe ddywedodd Mark Fisher ei fod yn deall fod yr awdurdodau lleol o dan bwysau cyllidebol, ond bod gan  Gyngor Bwrdeistref Castell Nedd a Phort Talbot “ddyletswydd i warchod ein gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol.”

Am hynny, mae’n galw ar y cynghorwyr i gydweithio â Unsain Cymru i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol i sicrhau dyfodol i wasanaethu llyfrgelloedd yn yr ardal.

‘Ystyried yr ymatebion’

Dywedodd Aled Evans, Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Cyngor Castell-nedd Port Talbot: “Mae ein hymgynghoriad ar gynigion arbedion bellach wedi dod i ben ac rydym nawr yn ystyried yr ymatebion a gawsom. Roedd yr ymgynghoriad yn ein galluogi i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau ar y ddarpariaeth bresennol ac i fesur barn am y posibilrwydd o drosglwyddo darpariaeth llyfrgelloedd.

“Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud a byddwn yn parhau i weithio gyda staff, undebau a’n cymunedau ar ddatblygu gwasanaeth y llyfrgelloedd yng Nghastell-nedd Port Talbot.

“Mae ein hasesiad diweddaraf o Lyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod 90% o aelwydydd o fewn 2.5 milltir o bwynt gwasanaeth sefydlog, neu o fewn ¼ milltir i lyfrgell deithiol. Yn ogystal, mae Castell-nedd Port Talbot yn darparu un o’r gwasanaethau llyfrgell fwyaf effeithlon a chost-effeithiol yng Nghymru.”