Mae Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Sir Conwy, wedi cael ei enwi yn un o’r atyniadau gorau i fynd iddiyn nhw yn 2016.

Yn y llyfr New in Travel, gan y cwmni teithio ar y we, Lonely Planet, mae’r ganolfan syrffio yn cyrraedd rhif 11 o’r rhestr o atyniadau newydd y byd, ymysg parc cenedlaethol yn Rwanda a gwifren wefreiddio anferth yn Ciwba.

Gorfod cau yn gynnar

Er i’r ganolfan, sydd â’r lagŵn syrffio cyntaf o’i fath, agor ym mis Gorffennaf 2015, roedd problemau technegol wedi golygu bod yn rhaid cau’r ganolfan wyth wythnos yn gynnar dros y gaeaf, gan beryglu sawl swydd leol.

Roedd y ganolfan wedi gorfod cau dwywaith dros yr haf hefyd ac mae disgwyl iddo ailagor ddiwedd mis Mawrth.

Bu’r cwmni dan y lach am gynnig gwersi syrffio mewn 35 o ieithoedd ond nid y Gymraeg ac am ei enw uniaith Saesneg, gydag awgrymiadau y gellid ei alw’n “Ewyn Eryri” yn Gymraeg.

Mae’r lagŵn, gwerth £12 miliwn, yn 300 metr o hyd ac yn defnyddio dŵr glaw i ddarparu tonnau dwy fedr o faint bob 60 eiliad.

Fe gafodd Surf Snowdonia  £4 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gychwyn y busnes.

10 atyniad uchaf Lonely Plant ar gyfer 2016

1.      Nicaragua – cyfle i ddringo llosgfynydd uchaf y wlad, Canolfan ar gyfer Twristiaeth Eithafol, Chinandega

2.      Siapan – llwybr gogleddol newydd trên bwled y wlad, Hokkaidō Shinkanse.

3.      Rwanda – llewod newydd ym Mharc Cenedlaethol Akagera

4.      Ynys Sant Helena, tiriogaeth Prydain – hediadau yn cael eu trefnu i’r ynys am y tro cyntaf

5.      Yr Emiraethau Arabaidd Unedig – Louvre newydd, Abu Dhabi

6.      Yr Eidal – cerdded ar y dŵr mewn gosodiad celf The Floating Piers ar Lyn Iseo

7.      Panama – estyniad gwerth $5 biliwn i Gamlas Panama

8.      Awstralia – blodau’r anialwch yng ngosodiad Field of Light, Uluru

9.    America – Amgueddfa gyntaf Dr Seuss, Springfield, Massachusetts

10.    Indonesia – ynys Gili Meno