Pencadlys Cyngor Cerediguion (Humphry Bolton CCA 2.0)
Mae corff sy’n cynrychioli awdurdodau lleol Cymru wedi galw am £4.75 miliwn yn ychwanegol i gynghorau gwledig y wlad yn dilyn toriadau i’w cyllidebau.

Ac mae’r cynghorau’n galw am newid sylfaenol yn y fformiwla sy’n dosbarthu arian, gan ddweud fod cynghorau cefn gwlad yn cael eu taro’n galetach na’r lleill.

Maen  nhw’n flin am fod siroedd fel Powys a Cheredigion yn wynebu toriadau o tua 2.5% eleni, o gymharu â 0.1% yng Nghaerdydd.

Cyflwyno cais

Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru (CLLC) wedi cyflwyno cais am rannu’r grant rhwng cyngor Ceredigion, Sir Benfro, Sir Fynwy a Phowys.

Yn ôl y cynghorau hyn, mae’r toriadau i’w cyllidebau o dan gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn annheg ac maen nhw’n galw am newid y fformiwla sy’n dosbarthu arian i awdurdodau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr awdurdodau lleol’n cytuno ar y fformiwla bob blwyddyn ac nad yw’r Llywodraeth yn ffafrio yr un cyngor ar draul un arall.

Mae gwrthbleidiau’r Cynulliad yn bygwth gwrthod y gyllideb ddrafft os na fydd rhagor o arian yn cael ei ddosbarthu i gynghorau gwledig.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cwyno – mae eu harweinydd Kirsty Williams yn cynrychioli un o etholaethau Powys – er eu bod wedi cefnogi Cylllideb y Llywodaeth.

Mwy o arian y pen

Mae Powys a Cheredigion yn dal i gael fwy o arian fesul pen y boblogaeth na Chaerdydd, ond mae’r toriadau arnyn nhw’n dal i fod yn “eithriadol o lym”, meddai Simon Thomas, Aelod Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.

“Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith bod y fformiwla sy’n cael ei defnyddio i benderfynu ar y materion hyn yn dueddol o ffafrio’r ardaloedd trefol beth bynnag, ond ar adeg pan i chi’n mynd ar doriadau, mae’n mynd yn fwy difrifol byth.

“Yn hytrach na chael toriadau sydyn, enfawr, mae angen gwneud pethau’n fwy llyfn, mae hynny’n cost weddol o fach (y grant mae’r CLLC yn galw amdano) ac yn cynnig rhesymol y dylai’r llywodraeth ei ystyried.”

Fe ddywedodd Jenny Rathbone, AC Canol Caerdydd, fod y brifddinas yn haeddu rhagor o arian oherwydd y twf yn ei phoblogaeth. Hi yw’r ddinas sy’n tyfu gyflyma’ yn y Deyrnas Unedig, meddai wrth Radio Wales.

‘Ystyried y galwadau’

“Mae awdurdodau lleol a CLLC yn cael eu cynrychioli ar y grŵp sy’n ystyried newidiadau i’r fformiwla ynghyd ag aelodau annibynnol sy’n sicrhau nad oes tystiolaeth o duedd naill ai o blaid, neu yn erbyn, buddiannau unrhyw awdurdod lleol,” meddai llefarydd ar ran Lywodraeth Cymru.

“Rydym wedi nodi’r galwadau am grant i liniaru’r effaith ar awdurdodau gwledig sy’n cael Grantiau Cymorth Refeniw is  a byddwn yn ystyried hyn ynghyd â thystiolaeth arall rydym yn ei derbyn fel rhan o graffu ar y Gyllideb.