Mark Drakeford
Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo dros £7 miliwn i wella gwasanaethau dau ysbyty yn Abertawe a Llanelli.

Daeth cadarnhad heddiw gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford y bydd £1.4 miliwn yn mynd at wella gwasanaethau gofal brys yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a £4.8 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer dialysis yn uned arennol Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae’r buddsoddiad yn golygu y gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ail-lunio Ysbyty Tywysog Philip er mwyn gwella’r uned gofal brys gan roi triniaeth i fwy o bobol yn gyflymach.

I Ysbyty Treforys, mae’r buddsoddiad yn golygu y bydd modd ailddatblygu’r uned ddialysis arennol leol a rhanbarthol, yr adran arennol i gleifion allanol a’r gwasanaeth triniaeth arennol ar gyfer achosion dydd a hunanofal.

Ysbyty Tywysog Philip

O ganlyniad i’r buddsoddiad, fe fydd cleifion sy’n cael eu cludo mewn ambiwlans yn dilyn galwad 999 neu sy’n cael eu dargyfeirio fel claf brys gan feddyg teulu yn cael eu cludo ar unwaith i’r Uned Derbyniadau Meddygol Aciwt newydd.

Bydd ardal ddadebru yn cael ei chreu o fewn yr uned, a chyfleusterau lle gall diagnosis o strôc gael ei wneud yn gyflym gan ddefnyddio’r Prawf Wyneb, Braich, Lleferydd.

Bydd cleifion sy’n cyrraedd ar eu liwt eu hunain yn cael eu hasesu i benderfynu a oes angen gofal arnyn nhw gan nyrs arbenigol neu feddyg teulu.

Yn ôl yr angen, bydd cleifion yn cael eu cyfeirio at y tîm amlddisgyblaethol ar gyfer gwasanaeth eiddilwch, neu at yr uned asesu acíwt yn yr adran newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl.

‘Trawsnewid gwasanaethau’ 

Dywedodd Mark Drakeford: “Rwy’n falch o gyhoeddi’r buddsoddiad hwn a fydd yn trawsnewid gwasanaethau gofal brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip i sicrhau y bydd cleifion yn cael eu gweld gan y person cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf.

“Hefyd, bydd y buddsoddiad hwn yn dangos i bobl Llanelli a’r ardal gyfagos bod dyfodol disglair o flaen Ysbyty’r Tywysog Philip o ran darparu gofal iechyd ardderchog.”

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip.

“Cafodd y prosiect ei lansio gan y bwrdd iechyd gan ddefnyddio cyllid lleol oherwydd ei bwysigrwydd i ni, ond rydyn ni’n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru wedi ei gefnogi’n llawn heddiw.”

Ysbyty Treforys

 

Bydd yr arian sydd wedi’i fuddsoddi yn Ysbyty Treforys yn darparu 23 o gorlannau gyda 30 o welyau dialysis gan gynnwys 19 o orsafoedd dialysis, un ystafell ar gyfer triniaeth â chathetr, pedair corlan ar gyfer achosion dydd, dwy gadair ar gyfer achosion dydd, a chwe ystafell ar gyfer cleifion allanol.

Bydd nifer y corlannau yn y ward arennol yn cynyddu o dri i saith, a bydd cyfleusterau pwrpasol ar gael ar gyfer nyrsio ataliol a chleifion bariatreg.  Bydd y rhain yn darparu gwasanaeth un-stop i gleifion y mae arnynt angen nifer o ymyriadau a phrofion.

Mae’r uned yn Ysbyty Treforys yn gyfrifol am ofalu am bobl sydd â chlefyd yr arennau sy’n byw ledled y De, y Canolbarth a’r Gorllwein; o Abergwaun i Ben-y-bont ar Ogwr yn y De ac o Dywyn i Lanidloes yn y Gogledd.

Mae’n cefnogi unedau yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd, Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin a Meddygfa Padarn yn Aberystwyth.

‘Gwaith arloesol’

Dywedodd yr Athro Drakeford: “Bydd y buddsoddiad hwn o £5.8 miliwn yn darparu gwasanaeth arennol modern a phwrpasol, a fydd yn arwain at wasanaethau a chanlyniadau gwell i bobl sy’n byw yn y De, y Canolbarth a’r Gogledd.

“Mae’r ganolfan ddialysis newydd yn enghraifft wych o waith arloesol, sy’n seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus, i ddarparu’r ganolfan ranbarthol olaf yn y gwasanaeth rhagorol hwn i Gymru.”