Mae dyn o Awstralia wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno wedi’i gyhuddo o ymosod ar ddyn mewn tafarn ym Mhenmaenmawr ar Ddydd San Steffan.

Roedd disgwyl i Scott Williams, 27,  ddychwelyd i Awstralia ar Ionawr 14, ond mae ar hyn o bryd yn cael ei gadw yn y ddalfa gan Heddlu Gogledd Cymru, wedi’r digwyddiad yn nhafarn Bron Eryri.

Yn ystod yr ymosodiad honedig, fe syrthiodd Jake Pickstock, 18, i lawr grisiau, a bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ar ei gefn yn uned arbenigol Stoke.

Fe fydd Scott Williams yn ymddangos gerbron Llys y Goron, Caernarfon, yr wythnos nesa’, ac mae wedi ildio ei basbort i’r awdurdodau.