Siân Phillips
Mae’r actores o Gymru Siân Phillips wedi cael ei hurddo’n Fonesig yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ddrama.

Dywedodd yr actores 82 oed ei fod yn “anrhydedd annisgwyl” a rhywbeth na fyddai hi wedi ei ddychmygu pan benderfynodd bod yn actores yn chwech oed.

Mae hi wedi cael gyrfa lewyrchus ar lwyfan ac ar y sgrin gan ddod i amlygrwydd yng ngwaith Ibsen, Hedda Gabler yn 1957.

Bu’n briod a’r actor Peter O’Toole a chafodd ddau o blant, Kate a Patricia. Fe ymddangosodd gyda’i gŵr yn y ffilmiau Under Milk Wood a Goodbye, Mr Chips.

Daeth i amlygrwydd yn ddiweddarach yng nghyfres y BBC, I, Claudius ac fe enillodd Bafta am yr Actores Orau yn 1977. Aeth ymlaen i ymddangos yn y ffilmiau Tinker, Tailor, Soldier, Spy a Smiley’s People. Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o gyfresi teledu fel Midsomer Murders, Ballykissangel, New Tricks, Lewis, a Poirot gan ymddangos mewn cynyrchiadau fel Calendar Girls yn y theatr.

Ers 2005 mae Bafta Cymru wedi cyflwyno Tlws Siân Phillips i actor o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ffilm a theledu.

Gwobrau eraill

Ymhlith y rhai eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu mae’r cyn-filwr Simon Weston a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn rhyfel Ynysoedd y Falkland. Mae’n derbyn CBE am ei waith yn codi arian ar gyfer elusennau.

Mae’r Athro Peter  Matthews, cyn-gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn derbyn CBE am ei wasanaethau i reolaeth amgylcheddol.

Ac mae gwobr hefyd i Dr Ruth Hussey, prif swyddog meddygol Cymru, a fydd yn ymddeol yn y gwanwyn.

Mae nifer o bobl eraill hefyd wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith yn y gymuned.

Sêr y sgrin

Ymhlith yr enwau adnabyddus eraill sydd wedi cael eu hanrhydeddu mae  Barbara Windsor sydd wedi’i hurddo’n Fonesig, a’r actor Hollywood Idris Elba sy’n derbyn OBE.

Hefyd yn derbyn OBE mae’r actorion James Nesbitt a David Oyelowo, ac mae’r actores Imelda Staunton yn derbyn CBE.