Mae mwy na £347,000 yn ddyledus i awdurdodau lleol ar draws Cymru mewn dirwyon sydd heb gael eu talu i lyfrgelloedd, yn ôl ffigurau sydd wedi dod i law’r Ceidwadwyr Cymreig.

Mae’r swm sy’n ddyledus yn amrywio’n sylweddol, gyda £67,679 yn ddyledus i Rondda Cynon Taf dros y tair blynedd diwethaf a £1,000 yn unig i Gastell-nedd Port Talbot.

Dim ond 17 o’r 22 cyngor oedd wedi rhoi’r ffigurau i’r Ceidwadwyr Cymreig yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth ond mae’r blaid yn credu y gallai’r ffigwr fod yn agosach at hanner miliwn.

Dywedodd llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders y gallai’r arian helpu i ddiogelu gwasanaethau lleol mewn cyfnod o doriadau sylweddol ac y dylai pobl sy’n benthyg llyfrau o lyfrgelloedd hefyd ysgwyddo’r cyfrifoldeb.

Symiau sy’n ddyledus

Yn Abertawe, mae £66,381 yn ddyledus mewn dirwyon sydd heb eu talu; £38,304 yng Nghaerdydd a £31,748 yng Nghasnewydd.

Yn Sir Benfro roedd £17,774 yn ddyledus, a £13,390 yn Wrecsam. Y ffigwr yn Sir Ddinbych oedd £11,088 dros y tair blynedd diwethaf.

Castell-nedd Port Talbot oedd a’r swm isaf yn ddyledus, sef £1,070 ar gyfer 2014/15.

Roedd awdurdodau lleol Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Merthyr Tudful wedi dweud wrth y Ceidwadwyr nad oedan nhw’n gallu darparu’r wybodaeth.

Rhondda Cynon Taf

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae gan y cyngor wasanaeth llyfrgell sy’n cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru o ran nifer y llyfrgelloedd a’r gwasanaethau ehangach sy’n cael eu darparu.

“Mae angen cymryd i ystyriaeth nifer y boblogaeth, nifer defnyddwyr y llyfrgell a nifer y llyfrau sy’n cael eu benthyg gan fod y rhain yn amrywio’n sylweddol.

“Rydym yn annog pobl i wneud y defnydd mwyaf o’n llyfrgelloedd drwy’r flwyddyn ac yn anfon llythyron i’w hatgoffa pan mae llyfrau’n cael eu dychwelyd yn hwyr.”