Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae cyn-lywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi wfftio’r syniad y gallai Aelodau Seneddol Cymreig ddod yn Weinidogion i Lywodraeth Cymru.

Fe ddywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wrth raglen y Post Cyntaf y bore yma fod “y peth yn chwerthinllyd” ac yn “dangos diffyg dealltwriaeth dybryd o gyfansoddiad Cymru.”

Daw ei sylwadau wedi i’r Asiantaeth Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr ddweud fod angen mwy o aelodau yng nghabinet Llywodraeth Cymru i ddelio â’r gwaith cynyddol a ddaw yn sgil datganoli rhagor o bwerau, gan gynnwys pwerau trethu.

Ond, yn ôl Dafydd Elis-Thomas, “mae’r syniad yn gwbl wrth-ddemocrataidd.”

‘Chwerthinllyd’

Mae’r asiantaeth sy’n cynrychioli cyfrifwyr Cymru a Lloegr yn dadlau fod system debyg mewn grym eisoes yn San Steffan, lle gall Arglwyddi wasanaethu yng nghabinet Llywodraeth Prydain.

Ond, fe wnaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wfftio’r syniad gan ddweud:

“Mae awgrymu bod pobl heb eu hethol yn gallu bod yn Weinidogion Cymru – o bleidiau gwahanol – yn gwbl wrth-ddemocratiaidd.”

“Bysa’r bobl yma wedi’u hethol ar faniffesto arall, i senedd arall, ac wedyn troi fyny yn senedd Cymru a galw’u hunain yn Weinidogion. Mae’r peth yn chwerthinllyd.”

“Fedra’ i ddim deall fod y fath syniad yn codi yn natblygiad cyfansoddiadol Cymru,” ychwanegodd.