Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog
Fe fydd y ganolfan iechyd newydd sy’n cael ei hadeiladu ym Mlaenau Ffestiniog yn derbyn £3.9m o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Fe fydd y ganolfan adnoddau gofal sylfaenol yn cael ei hadeiladu ar safle Ysbyty  Coffa Blaenau Ffestiniog, sy’n adeilad rhestredig wedi’i ariannu gan gyfraniadau.

Mae’r datblygiad yn un o dair canolfan iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o newidiadau a gytunwyd ar draws y gogledd, gyda’r lleoliadau eraill yn Llangollen a’r Fflint.

“Bydd y ganolfan adnoddau gofal sylfaenol newydd ym Mlaenau Ffestiniog yn darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau iechyd o un safle,” meddai Mark Drakeford.

Y gwasanaethau

Fe fydd y ganolfan newydd yn cynnwys amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys gwasanaeth meddyg teulu, clinigau nyrs arbenigol a gofal lliniarol i gleifion allanol a chlinigau clefydon anadlol dan arweiniad ymgynghorydd.

Fe fydd hefyd ystafelloedd penodol ar gyfer gwasanaethau i blant, gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, canolfan fydwreigiaeth barhaol a chlinigau cyn-geni.

Mae’r gwasanaethau eraill yn cynnwys sesiynau iaith a lleferydd, gwasanaethau nyrsys ysgol, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau anableddau dysgu.

Fe fydd y ganolfan hefyd yn cyflwyno cyfleusterau telefeddygaeth i wella mynediad at wasanaethau, drwy sefydlu ystafelloedd technoleg.

Y bwriad yw creu deintyddfa gymunedol newydd hefyd gyda’r potensial i ddenu deintydd wedi’i gyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd.

‘Canolbwynt yn y dref’

Fe groesawodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Peter Higson y cyllid gan ddweud eu bod yn “hyderus y bydd y datblygiad modern hwn yn gwella gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol i drigolion y dref.”

Esboniodd y bydd yn “darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol mewn lleoliad pwrpasol.

“Rydyn ni hefyd yn disgwyl y bydd y Ganolfan newydd yn dod i fod yn ganolbwynt yn y dref ar gyfer iechyd a lles, a chyngor a chymorth ynghylch ffordd o fyw.”