Mae Aelod Seneddol Llafur Cwm Rhondda, Chris Bryant wedi gwahodd pencampwr paffio pwysau trwm y byd, Tyson Fury i Dŷ’r Cyffredin am drafodaeth am ei sylwadau dadleuol am gyfunrywioldeb.

Dywed Chris Bryant na ddylai Tyson Fury fod wedi’i enwi ar restr fer y BBC ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn yn sgil ei sylwadau am gyfunrywioldeb ac am sarhau’r athletwraig Jessica Ennis-Hill, sydd hefyd ar y rhestr fer.

Roedd Fury hefyd wedi cymharu cyfunrywioldeb ac erthylu plentyn gyda phedoffilia.

Dywedodd Fury mai “lle dynes yw’r gegin” ac fe wnaeth ensyniadau rhywiol am yr athletwraig o Sheffield.

Mae mwy na 63,000 o bobol wedi llofnodi deiseb ar-lein yn galw ar y BBC i dynnu ei enw oddi ar y rhestr fer.

Dywed y BBC nad ydyn nhw’n bwriadu tynnu ei enw oddi ar y rhestr fer er gwaetha’r ddeiseb.

Dywedodd Chris Bryant wrth raglen Murnaghan ar Sky News: “Yn rhannol, rwy’n jocian am fynd ben-ben ag e, ond eto rwy’n credu ei bod hi’n bosibl yn y byd gwleidyddol i newid meddyliau pobol.”

Ychwanegodd nad yw’n credu y dylai Fury gael aros ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y BBC.

“Yn y pen draw, nid fy lle i yw dweud wrth y BBC beth i’w wneud gyda’u rhaglen, na Sky am hynny.”

“Fy ngwir broblem yw fod Tyson wedi cymharu cyfunrywioldeb gyda phedoffilia ac mewn gwirionedd, mae hynny’n hafaliad peryglus iawn i’w wneud gan ei fod yn meddwl nad ydyn ni’n cymryd camdrin plant o ddifri.”

Dywedodd Chris Bryant fod y rhan fwyaf o droseddau rhyw yn erbyn plant gan ddynion a menywod heterorywiol.

“Mae sarhad ofnadwy yn yr hyn ddywedodd e, ond nid y sarhad sy’n fy mhoeni ond y ffaith ei fod yn golygu nad ydyn ni’n cymryd camdrin plant o ddifri.”

Yn San Steffan ddydd Iau, dywedodd Chris Bryant fod Tyson Fury wedi dweud bod nifer o’i ffrindiau’n hoyw.

Ar raglen Murnaghan, dywedodd yr Aelod Seneddol nad yw Tyson Fury wedi ymateb i’w wahoddiad i gael sgwrs.