Sacs yn Aberhonddu (Llun Golwg360)
Mae un o brif wyliau cerddorol Cymru mewn peryg unwaith eto wrth i’r trefnwyr presennol ddweud eu bod yn rhoi’r gorau iddi.

Fydd cwmni Orchard o Gaerdydd ddim yn parhau i drefnu Gŵyl Jazz Aberhonddu ar ôl camu i mewn i’w hachub bedair blynedd yn ôl.

Mae’r cwmni’n dweud nad ydyn nhw wedi gallu cael eu talu o gwbl am eu gwaith trefnu yn ystod y cyfnod hwnnw.

Yn ôl eu llefarydd, does ganddyn nhw ddim syniad beth fydd dyfodol yr ŵyl a does yna ddim trafodaethau ar droed ynglŷn â’i dyfodol.

Y trydydd argyfwng

Dyma’r trydydd argyfwng mawr i’r ŵyl sy’n cael ei chynnal mewn  nifer o ganolfannau o amgylch tref Aberhonddu.

Fe aeth i drafferthion ariannol yn 2009 pan gafodd ei hachub gan Ŵyl y Gelli ond fe roeson nhw’r gorau i’r digwyddiad yn 2011.

Tros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi denu rhai o enwau mwya’r byd jazz a, phan oedd yn ei hanterth, roedd y trefnwyr yn honni bod 50,000 o bobol yn dod i’r dre’.

Mae’r ŵyl wedi bod yn cael nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac roedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed y llynedd.