Fe fydd Aberystwyth yn fwrlwm o gystadlu ddydd Sadwrn wrth i gystadleuwyr o bob cwr o’r wlad heidio i’r dref ger y lli ar gyfer Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mae disgwyl cystadleuaeth frwd unwaith eto rhwng y gwahanol siroedd wrth iddyn nhw geisio dod i’r brig yn y canu, perfformio sgets, llefaru a’r holl weithgareddau eraill fydd ymlaen yn ystod y diwrnod.

Fe fydd cystadleuaeth y ddeuawd doniol hefyd yn un i gadw llygad arni wrth i’r enillwyr enwoca’ erioed wynebu ei gilydd.

Fe gododd Endaf Griffiths a Deian Thomas storm gyda chyhuddiadau bod eu deuwawd ‘Ping a Pong’ yn hiliol dair blynedd yn ôl – y tro yma fe fydd y naill a’r llall yn canu mewn deuawdau ond i siroedd gwahanol.

Her yr hunlun

Bydd Golwg360 yno drwy gydol y dydd hefyd yn dod a’r canlyniadau diweddaraf i chi o’r llwyfan ar ein cyfrif Twitter, yn ogystal â sgwrsio â rhai o’r cystadleuwyr a’r cymeriadau fydd yno.

Fe gewch chi gyfle i gymryd cip nôl wedyn ar holl ddigwyddiadau mawr y dydd yn ein pecyn uchafbwyntiau’r diwrnod canlynol, wrth i ni weld pwy fydd wedi cipio’r prif wobrau ac a fydd un o’r siroedd eraill wedi llwyddo i gipio coron Ceredigion eleni.

Yn ogystal â hynny, fe fyddwn ni’n rhedeg cystadleuaeth hunlun arbennig ar gyfer y rheiny ohonoch chi fydd yno, felly byddwch yn barod â’ch ffonau symudol.

Anfonwch eich selfies gorau i ni ar gyfrif Twitter @Golwg360 gan ddefnyddio’r hashnod #EisteddfodCFfI, ac fe gawn ni weld pa sir fydd ein sêr ni o flaen y camera erbyn diwedd y dydd!