William Graham (o'i wefan)
Mae un o’r Aelodau Cynulliad mwya’ profiadol wedi colli ei le ar restr ymgeiswyr y Ceidwadwyr yn Nwyrain De Cymru.

Mae hynny’n golygu nad oes gan William Graham ddim gobaith o gael ei ethol yn yr etholiadau ym mis Mai – er iddo fod yn y Cynulliad ers y dechrau yn 1999.

Y bore yma, fe awgrymodd fod pobol wedi trefnu pethau’n fwriadol er mwyn cael gwared arno.

Asghar yn ennill

Fe gafodd William Graham ei gadw allan o’r pedwar ucha’ mewn pleidlais gan Geidwadwyr y rhanbarth, wrth i Mohammad Asghar – cyn AC dadleuol Plaid Cymru – ddod ar frig y rhestr.

Roedd hynny ar ôl cyfarfod ‘primary’ i ddewis yr ymgeiswyr ar gyfer y rhestr ranbarthol – er nad yw hynny, meddai William Graham, yn rhan o’r rheolau.

Fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi gwneud “gormod o elynion” yn ystod ei yrfa yn y Cynulliad ac roedd yn rhyfeddu bod rhai pobol o’r tu allan i Gymru wedi gwneud yn dda yn y bleidlais neithiwr.

Er hynny, fe ddywedodd y byddai’n parhau i weithio tros y Ceidwadwyr ac i gefnogi’r arweinydd Cymreig, Andrew R T Davies.