Llun Hellbus CCA3.0
Mae yna bryderon am y cynllun i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i dde Cymru ar ôl i aelodau seneddol gondemnio cynnydd “anhygoel” yn y pris.

Fe alwodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Nhŷ’r Cyffredin am ystyried dyfodol y corff sydd i fod i gadw llygad ar gostau  ar ôl clywed bod cost y trydaneiddio wedi codi o £1.6 biliwn i £2.8 biliwn mewn blwyddyn.

Fe fu amheuon cyn hyn y byddai’r amserlen ar gyfer adnewyddu rheilffyrdd ar draws Cymru a Lloegr yn cael ei harafu oherwydd costau.

Mae’r pryder mwya’ am drydaneiddio’r darn o’r lein rhwng Caerdydd Abertawe sydd i fod i gael ei orffen erbyn 2018.

‘Colli gafael’

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mae cwmni Network Rail, sy’n gyfrifol am y rhwydwaith rheilffyrdd, wedi “colli ei afael ar brosiectau isadeiledd mawr”.

Roedd y cynnydd mewn costau’n dangos “gwendidau difrifol o ran rheoli a chynllunio” meddai Meg Hillier.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar i’r Llywodraeth edrych o ddifri ar ddyfodol y Swyddfa Rheillffyrdd a Ffyrdd sydd i fod i gadw llygad ar gostau prosiectau o’r fath.

Cymru’n ‘colli £4 biliwn’

Trydaneiddio’r lein i Abertawe yw un o’r prosiectau sy’n debyg o ddiodde’ oherwydd cost rheilffordd newydd HS2 ar draws Lloegr, meddai un o Aelodau Seneddol Plaid Cymru.

Yn ôl Jonathan Edwards, mae’r gost yn debyg o godi i £80 biliwn gan fynd ag arian oddi ar brosiectau ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru.

Ac mae wedi cyhuddo llywodraethau Ceidwadol a Llafur o “fradychu” Cymru trwy fynnu nad prosiect i Loegr yn unig yw hwnnw.

Petai’r Llywodraeth yn cydnabod hynny, fe fyddai Cymru’n derbyn £4 biliwn at brosiectau yma, meddai Jonathan Edwards.