Maes Awyr Caerdydd
Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cadarnhau fod awyrennau yn hedfan “yn ôl yr arfer” o Gaerdydd i Baris wedi’r ymosodiadau yno nos Wener.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y maes awyr fod Flybe, cwmni awyrennau sy’n gwasanaethu teithiau rhwng Cymru a Ffrainc, yn “parhau i wasanaethu anghenion teithio cwsmeriaid ar ôl ymosodiadau nos Wener ym Mharis.”

Er hyn, maen nhw wedi ymestyn y cyfnod y gall teithwyr newid eu cynlluniau am ddeuddydd ychwanegol.

 

Dydd Llun a dydd Mawrth

Fe fydd gan gwsmeriaid sydd wedi trefnu i deithio gyda Flybe o Gaerdydd i Baris heddiw neu yfory (16 neu 17 Tachwedd 2015) yr hawl i newid eu cynlluniau.

Gallan nhw ail-archebu’r daith ar gyfer dyddiad arall, dewis lleoliad arall neu dderbyn credyd arian i deithio gyda Flybe rywbryd eto.

Bydd angen i’r cwsmeriaid gysylltu â Chanolfan Cyswllt Cwsmeriaid Flybe.

“Diogelwch y cwsmeriaid a’r criw yw ein prif flaenoriaeth,” meddai llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd.

Fe wnaethon nhw hefyd gadarnhau fod yr holl deithwyr oedd i ddychwelyd i faes awyr Caerdydd o Sharm El Sheikh gyda chwmni Thomson wedi gwneud hynny.

Am 11 y bore, fe wnaeth maes awyr Caerdydd gynnal munud o dawelwch i gofio am y rhai a gollodd eu bywydau ym Mharis dros y penwythnos.