Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am ddatganoli pellach i Gymru mewn cyfarfod heddiw ar ôl iddi ddweud bod angen ‘mwy o waith’ ar Fesur Drafft Cymru.

Fe fydd Rosemary Butler yn amlinellu’r newidiadau y byddai hi’n eu gwneud a’r opsiynau y bydd yn cynnig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol heddiw.

Fe ddywedodd ei bod yn croesawu ‘llawer’ sydd yn y drafft, ond bod ‘angen mwy o waith’ arno os bydd yn ‘darparu cytundeb datganoli parhaol i Gymru sy’n glir, yn ymarferol ac yn gryf’.

Ond fe bwysleisiodd hefyd mewn erthygl yn y Western Mail, bod dim un o’r opsiynau y mae hi’n eu cynnig yn cyflawni eu ‘nod gwirioneddol’, sef cytundeb datganoli i Gymru, a chytundeb cyfansoddiadol i’r Deyrnas Unedig.

Gosod ei nod am ddatganoli

Ac yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Casnewydd, dylai cytundeb o’r fath fod yn seiliedig ar yr ‘egwyddor o ddatganoli – sef y dylai Llywodraeth y DU  wneud y pethau sy’n methu cael eu gwneud yn effeithiol ar lefel datganoledig yn unig’.

“Rwy’n cydnabod, nad oes digon o amser i gyflawni’r nod hwn yn y broses sy’n arwain at y Mesur Cymru cyfredol, ac felly, rwy’n ymrwymedig i weithio gydag Ysgrifennydd Cymru i sicrhau bod y (mesur) a fydd yn cael ei gyflwyno yn y pen draw yn un y gallaf ei gefnogi fel cam tuag at gytundeb parhaol,” meddai.

Nid ‘canlyniad delfrydol’

Er bod Rosemary Butler yn cydnabod na fyddai’r newidiadau yn ‘rhoi’r canlyniad delfrydol’, mae wedi dweud y byddan nhw’n “gwella’r cytundeb y byddai’r Cynulliad yn gorfod gweithio ag ef am ychydig o flynyddoedd tra ein bod yn gweithio â Llywodraeth y DU a rhannau eraill o’r DU i ddod o hyd i gytundeb cyfansoddiadol parhaol a sefydlog.”