Mae pedwerydd unigolyn wedi cael ei arestio mewn ymchwiliad i achos o lofruddiaeth yn Felinfoel ger Llanelli.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys mai dyn arall sydd wedi cael ei arestio ond does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.

Cafwyd hyd i weddillion dyn Pwylaidd mewn tŷ yn ardal Pleasant View yn y pentref, ond nid yw wedi cael ei enwi yn swyddogol hyd yma.

Mae dau ddyn a dynes yn dal i gael eu cadw yn y ddalfa fel rhan o’r ymchwiliad.