Plas Glynllifon
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi galw am gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n ei gwneud hi’n anghyfreithlon i newid enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Dywed Meri Huws y dylid cofnodi enwau hanesyddol ar gofrestr statudol, gan ddilyn esiampl Awstralia lle mae’r fath fesur mewn grym.

Daw sylwadau Meri Huws yn dilyn ffrae tros newid enw Plas Glynllifon ger Caernarfon i Wynnborn ar ddeunydd marchnata.

Ond mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Ken Skates wedi dweud y byddai gwarchod enwau lleoedd yn “anodd iawn”.

Wrth drafod y mater ar raglen Sunday Politics y BBC, dywedodd Meri Huws bod “gwir gyfle i ni warchod enwau drwy gofrestr statudol ac mae hynny’n cael ei wneud mewn rhannau eraill o’r byd”.

“Mae gyda ni enwau Cymraeg yng Nghymru, mae gyda ni enwau Saesneg, mae gyda ni enwau Sgandinafaidd, mae gyda ni hefyd enwau lleoedd Gwyddelig a Fflemaidd.

“Ond mae’r cyfan yn adlewyrchu ein hanes ni, ac mae’r hanes yma’n hollbwysig i ni fel cenedl.”

Dywedodd llefarydd iaith Gymraeg y Ceidwadwyr, Suzy Davies wrth y rhaglen ei bod hi’n “sinigaidd am ruthro i ddeddfu”, ond roedd hi’n barod i gyfaddef fod “anwybodaeth yn y ffordd rydyn ni’n defnyddio enwau lleoedd”.

Tra ei bod hi’n cydnabod y byddai cofrestr yn “ddefnyddiol”, cododd hi amheuon ynghylch pwy fyddai’n gyfrifol am gynnal y gofrestr.